Gwerthusiad; Ymchwil a Chanllawiau

Winter tree

 

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau Gwledig, Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau sydd â'r nod o wella cynaliadwyedd a chryfhau gwytnwch ein hamgylchedd naturiol, y sector seiliedig ar y tir, busnesau bwyd, a hefyd ein cymunedau. 

Mae'n cynnwys:

  • Gwella sgiliau, hyrwyddo arloesi, a chryfhau dulliau o drosglwyddo gwybodaeth 
  • Creu a diogelu swyddi
  • Gwella canlyniadau amaeth-amgylcheddol
  • Cynnal coetiroedd a choedwigoedd
  • Cynyddu bioamrywiaeth
  • Cefnogi a hybu effeithlonrwydd adnoddau
  • Datblygu a darparu gwasanaethau ecosystem
  • Cefnogi datblygu cymunedol
  • Gwella iechyd a lles anifeiliaid
  • Arafu newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddo

Pam fod angen inni fonitro a gwerthuso? 

Mae'r prosesau monitro a gwerthuso yn brosesau pwysig ar gyfer asesu pa mor llwyddiannus yw'r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru a sut mae'n cael ei gweithredu. Mae'n hanfodol sicrhau bod systemau monitro a gwerthuso trylwyr a phriodol ar waith i'n helpu i ddeall pa mor llwyddiannus yw'r canlyniadau a'r cynhyrchion, ac i helpu i asesu effeithiau.

Pwy sy'n gyfrifol am y gwaith monitro a gwerthuso?

Ymgeiswyr prosiectau a Llywodraeth Cymru.  

Mae ymgeiswyr prosiectau'n gyfrifol am adrodd ar lwyddiannau eu prosiectau a'r data allweddol angenrheidiol. Y Tîm Strategaeth yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) sy'n gyfrifol am fonitro a gwerthuso ar lefel y rhaglen. Mae hynny'n cynnwys coladu data monitro ar lefel y rhaglen ar gyfer cwblhau'r Adroddiadau Gweithredu Blynyddol. Mae'r Tîm Strategaeth hefyd yn gyfrifol am reoli gwerthusiadau ar lefel rhaglen a chynllun, yn ogystal â rhoi cyngor ac yn ateb cwestiynau monitro a gwerthuso sy'n ymwneud â'r rhaglen. Mae hynny'n cynnwys darparu cymorth mewn perthynas â chasglu data, sut mae diffinio dangosyddion, a llunio manylebau gwerthuso. 

I gysylltu â'r Tîm gwerthuso monitro ymchwil, e-bostiwch: RDPMandE@llyw.cymru

 

PDF icon

 

PDF icon

 

PDF icon

 

 

 

Nod y grant oedd cynyddu buddsoddiad ar y fferm, perfformiad technegol, cynhyrchiad ar y fferm, ac effeithlonrwydd adnoddau.

Yn gyffredinol, darganfu'r ymchwil:

  • roedd canfyddiadau o'r FBG yn gadarnhaol
  • roedd y broses ymgeisio yn syml ac yn ddidrafferth
  • yn gyffredinol, cafodd Digwyddiadau Trosglwyddo Gwybodaeth, Ffermio ar gyfer y Dyfodol (KTEs), derbyniad da
  • roedd y KTEs yn effeithiol wrth sbarduno ymgysylltiad gyda chefnogaeth a chyngor ehangach a gynigiwyd trwy Cyswllt Ffermio
  • roedd tystiolaeth ddangosol i awgrymu bod buddsoddiadau wedi ysgogi gwelliannau yn effeithlonrwydd technegol ffermydd