Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru. Mae’r hysbysiad hwn yn amlinellu sut y byddwn yn defnyddio eich data personol, a’ch hawliau. Caiff ei wneud o dan Erthyglau 13 a/neu 14 o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR).
Cymerwch eiliad i ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) yn casglu gwybodaeth neu ddata penodol (fel yr hyn a restrir isod) am unigolion pan fyddant yn defnyddio gwefan boss.businesswales.gov.wales/ a businesswales.gov.wales/boss neu wefannau eraill sy’n cael eu gweithredu gan BOSS a Busnes Cymru neu ar eu rhan (gyda’i gilydd, y “Gwefannau”).
Pam rydyn ni’n casglu ac yn prosesu'r data a gesglir
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolwr Data ar gyfer y data personol a ddarparwch wrth gael mynediad at gymorth Busnes Cymru.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw adran 6(1)(e) GDPR y DU (cyfreithlondeb prosesu). Mae'r prosesu hwn yn angenrheidiol i berfformio ein tasg gyhoeddus i'ch adnabod chi a darparu'r wybodaeth a’r cyngor busnes fwyaf priodol.
Byddwn yn prosesu’r data personol a’r data busnes canlynol:
· Enw
· Cyfeiriad e-bost
· Manylion cyswllt
· Sir
· Cam busnes
Gall methu â rhoi’r wybodaeth hon i ni eich atal rhag cael mynediad at y gwasanaeth.
Marchnata ac ymchwil
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio manylion eich busnes ar gyfer gweithgareddau marchnata Busnes Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data heb eich caniatâd ar gyfer y diben penodol hwn.
Sylwer - bydd sefydliadau / gwerthuswyr ymchwil ond yn cysylltu â sampl o unigolion a/neu fentrau. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil/gwerthusiad am eich profiad o’r prosiect, bydd pwrpas y cyfweliad neu'r arolwg yn cael ei esbonio i chi a byddwch yn cael y dewis i ddweud ie neu na i gymryd rhan. Dim ond ar gyfer ymchwil cymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a byddant yn cael eu dileu unwaith y bydd yr ymchwil gymeradwy hon wedi'i chwblhau.
Pwy fydd yn cael mynediad at eich data?
Defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer BOSS yn unig
Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn storio eich data.
Bydd eich data yn cael ei storio ar System TG ddiogel Llywodraeth Cymru a systemau TG diogel ein contractwyr (gan gynnwys trydydd partïon) sy'n darparu'r gwasanaeth i chi.
Caiff ei gasglu a’i rannu gyda’r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrwyd yn gynharach:
- Sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i wneud gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal y gwasanaeth.
- Timau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a'i weinyddwyr technegol systemau sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr technegol systemau yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
- Swyddfa Archwilio Cymru neu’r rhai sy’n gweithredu ar eu rhan, neu archwilwyr priodol eraill Gwasanaethau Busnes Cymru.
Data defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru a’i gontractwyr (gan gynnwys trydydd partïon) yn casglu ac yn storio eich data.
Bydd eich data yn cael ei storio ar System TG ddiogel Llywodraeth Cymru a systemau TG diogel ein contractwyr (gan gynnwys trydydd partïon) sy'n darparu'r gwasanaeth i chi.
Caiff ei gasglu a’i rannu gyda’r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrwyd yn gynharach:
- Sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i wneud gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal y gwasanaeth.
- Timau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a'i weinyddwyr technegol systemau sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr technegol systemau yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
- Swyddfa Archwilio Cymru neu’r rhai sy’n gweithredu ar eu rhan, neu archwilwyr priodol eraill Gwasanaethau Busnes Cymru.
Data defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer rhaglen Cyswllt Ffermio
Mae’r data ar gael i sefydliadau a gontractiwyd yn unswydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r Rhaglen Cyswllt Ffermio:
- Timau mewnol Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.
- Menter a Busnes a'u hisgontractwyr trydydd parti dethol.
- Lantra a'u his-gontractwyr trydydd parti dethol.
Bydd y data personol ar y ffurflen hon ar gael i dimau Archwilio, Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru; dim ond i ddilysu’r broses o weinyddu’r Rhaglen Cyswllt Ffermio y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio.
Pa mor hir rydyn ni'n cadw’r data?
Defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer BOSS yn unig
Os yw’r data yn gysylltiedig â chymorth a ariennir gan yr UE, gellir ei gadw tan 2030.
Gellir cadw'r holl ddata arall am 2 flynedd at ddiben gwella ansawdd mewnol a hyfforddiant.
Data defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'r prosiect ddod i ben at ddibenion archwilio, ac ar ôl hynny, caiff ei ddistrywio’n ddiogel.
Data defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer rhaglen Cyswllt Ffermio
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd, ac ar ôl hynny, byddwn yn sicrhau ei bod yn cael ei gwaredu'n ddiogel yn unol â Pholisi Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru.
Disgwylir i’r rhaglen Cyswllt Ffermio gael ei hadolygu yn 2025. Os caiff ei disodli gan raglen arall Llywodraeth Cymru sy’n cynnig gwasanaethau cymorth i’r diwydiant ffermio, byddwn yn parhau i brosesu eich data personol yn y ffordd a amlinellwyd yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn (lle mae’n briodol gwneud hynny) er mwyn ein galluogi i barhau i’ch cefnogi chi a’ch busnes.
Beth yw eich hawliau?
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
· cael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi;
· mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw
· gwrthwynebu neu gyfyngu prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
· ‘dileu’ eich data (mewn amgylchiadau penodol)
· cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
I gael cymorth gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu ddefnyddiwch y ffurflen i gysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni
Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth a roddwch i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i ofyn am eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.
Newidiadau i’r polisi hwn
Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn unrhyw bryd. Bydd newidiadau yn cael eu postio yma ac yn dod i rym ar unwaith. Pan fydd newidiadau'n digwydd i'r polisi hwn, bydd angen i chi eu hadolygu a chytuno iddynt cyn i chi barhau i ddefnyddio BOSS.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau gwybodaeth
Cyfeiriad post:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales