
Mae mwy na 44,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru yn elwa o well cysylltedd, diolch i fand eang ffeibr llawn cyflym a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mewn partneriaeth ag Openreach, mae'r prosiect pedair blynedd, sydd bellach wedi'i gwblhau, wedi rhoi mynediad at gysylltedd ffeibr llawn i filoedd yn fwy o eiddo na'r targed gwreiddiol o 39,000. Gwariwyd llai ar gyflwyno'r band eang na'r gyllideb wreiddiol o £57 miliwn ar gyfer y gwaith, a ddarparwyd...