BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Celtic Arms

Celtic Arms

Bwyty traddodiadol yn Llaneurgain yn cynyddu ei elw ar ôl derbyn cymorth gan Busnes Cymru.

Dan reolaeth Jose Lourenco yng ngogledd Cymru, mae The Celtic Arms yn fwyty traddodiadol, sy'n cynnig profiad bwyta unigryw gyda phrydau wedi'u coginio'n ffres ac ystafelloedd achlysuron. Cysylltodd Jose â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth gyda'i strategaeth dwf.

  • cymorth gan Ymgynghorydd Twf
  • creu 2 swydd ers ymyrraeth Busnes Cymru
  • cymorth gyda marchnata ac atgyfeiriadau ar gyfer rhagor o gymorth, gan arwain at y busnes yn gwneud elw
  • wedi mabwysiadu polisi cynaliadwyedd

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i leoli yn amgylchedd bendigedig Parc Sirol Llaneurgain, mae The Celtic Arms yn fwyty traddodiadol, bar ac ystafelloedd achlysuron, sy'n cyfuno traddodiad a cheinder yn gelfydd i greu profiad bwyta unigryw yng nghanol tirwedd gogledd Cymru.

Dan reolaeth y Cyfarwyddwr Jose Lourenco, mae'r bwyty yn cynnig bwydlenni a phrydau newydd drwy gydol y flwyddyn, gan ddefnyddio cynnyrch ffres a chynhwysion lleol lle bynnag y bo'n bosib.

Mae'r busnes hefyd yn gweini ar gyfer partïon mawr ac achlysuron arbennig, ac mae wedi'i leoli'n berffaith ar gyfer pryd cyn ymweld â'r theatr, gyda Theatr Clwyd ond 2.5 milltir i ffwrdd.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Sefydlais fy musnes fy hun oherwydd fy mod yn caru'r diwydiant ac rwyf wrth fy modd â'r ffaith ein bod yn gwmni annibynnol ac nid yn rhan o gadwyn fawr. Rwy'n teimlo po leiaf yw eich maint, po fwyaf personol y gallwch fod.

Pa heriau a wyneboch?

Mae'r heriau a wynebom wedi bod yn gysylltiedig â'r rhwystrau arferol y mae pob perchennog busnes yn eu hwynebu, gan gynnwys agweddau megis recriwtio. Mae gennym hefyd gyfraddau busnes uchel iawn sydd wedi bod yn faich mawr, ond rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu a gwella ein gweithrediadau.

Cymorth Busnes Cymru

Camodd Busnes Cymru i'r adwy pan oedd Jose yn edrych ar ehangu'r lleoliad. Trefnodd Ymgynghorydd Twf Busnes Cymru, Carol Williams i ymgynghorwyr arbenigol gynnal astudiaeth dichonoldeb, a wnaeth Jose yn ymwybodol o agweddau allweddol ar y busnes yr oedd angen iddo ganolbwyntio arnynt.

Cyfeiriodd Carol ef at y cynllun Cymraeg Byd Busnes a oedd yn gallu helpu Jose i gynnwys y Gymraeg yn ei fwydlenni ac arwyddion. Caniataodd hyn, ynghyd â chymorth pellach gyda'i strategaeth dwf i The Celtic Arms gynyddu eu sylfaen gwsmeriaid, creu 2 swydd newydd a gwneud elw.

Gyda chymorth ymgynghorydd cynaliadwyedd arbenigol, mabwysiadodd Jose bolisi cynaliadwyedd a chynllun gweithredu hefyd i ganiatáu ar gyfer rheoli amgylcheddol cadarnhaol.

Canlyniadau

  • cymorth gan Ymgynghorydd Twf
  • creu 2 swydd ers ymyrraeth Busnes Cymru
  • cymorth gyda marchnata ac atgyfeiriadau ar gyfer rhagor o gymorth, gan arwain at y busnes yn gwneud elw
  • wedi mabwysiadu polisi cynaliadwyedd

Mae Busnes Cymru a Carol, yn arbennig, wedi bod yn help mawr mewn sawl ffordd. Gwnaethant ein helpu gyda llawer o agweddau ar redeg y busnes a'n cyfeirio i'r cyfeiriad cywir i gael rhagor o gymorth, gan gynnwys cymorth gyda chreu arwyddion twristiaeth yn ogystal â sicrhau bod ein holl ddeunyddiau yn ddwyieithog.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.