BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Create Salon

Create Salon

Ffrindiau o Gaerdydd yn herio ffiniau'r cyfnod clo ac yn lansio eu salon gwallt eu hunain yn llwyddiannus, gyda chymorth gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru.

Er gwaethaf sawl her, yn cynnwys clo lleol a cholli 60% o gleientiaid, llwyddodd Kasey Perks a Danielle Vinson i roi'r gorau i rentu cadeiriau, ac edrych ar gyflogi eu cynorthwyydd cyntaf yn eu salon gwallt newydd yng Nghaerdydd. Roeddem gerllaw i'w helpu nhw drwy gydol y broses dechrau busnes, gan ddarparu cyngor ar gynllunio busnes, dod o hyd i gyllid, treth, marchnata a recriwtio, ymhlith pethau eraill.

  • Wedi dechrau'n llwyddiannus
  • Creu 2 swydd
  • Sicrhau Benthyciad Adfer Banc o £10,000 i helpu gyda chostau cyffredinol yn ystod y cyfnod clo
  • Cofrestru i Addewid Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru

Cyflwyniad i'r busnes

Mae Create Salon yn salon gwallt newydd, ymwybodol o'r amgylchedd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, a gafodd ei lansio gan Kasey Perks a Danielle Vinson. Mae'r salon yn cynnig amrywiaeth o driniaethau torri a lliwio gwallt, yn cynnwys cynnyrch lliwio fegan, mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Roedd Kasey a minnau'n teimlo ein bod ni wedi cyrraedd pen y daith o ran faint yr oeddem yn gallu datblygu mewn amgylchedd salon. Roedd gan y ddwy ohonom 12 mlynedd o brofiad, ac yn teimlo ei bod yn amser iawn i ni fynd ar ein liwt ein hunain. Roedd gennym lawer o syniadau ynghylch sut fydden ni'n hoffi rhedeg salon. Mae gan y ddwy ohonom ddiddordeb mewn cynaliadwyedd a'r amgylchedd, ac roedd hyn yn rhywbeth yr oeddem eisiau ei gynnwys gyfochr â'n cariad at wallt. Wrth i ni rentu cadair mewn salon am rai misoedd, fe ddechreuon ni chwilio am lefydd i rentu, a chychwyn y daith. Rhoddodd hyn yr ysgogiad i ni ddeall ein bod ni eisiau ein salon ein hunain, a rhoi ychydig o brofiad ychwanegol i ni o redeg salon ar ein pen ein hunain. 

Pa heriau a wyneboch?

Wrth gychwyn busnes newydd, mae nifer o heriau i'w disgwyl. Ym mis Chwefror fe ddechreuon ni weithio'n hunangyflogedig, cyn mynd i gyfnod clo 6 wythnos yn ddiweddarach Yn ariannol, nid oeddem yn gymwys am unrhyw gymorth drwy gydol y cyfnod clo 4 mis, gan nad oedd gennym adroddiadau treth ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Nid oeddem yn gwybod sut fyddai pethau ar ôl i ni ddychwelyd, yn cynnwys am ba hyd y bydden ni gartref o'r gwaith. Roedd yn gyfnod heriol iawn o beidio â gwybod pryd fydden ni'n dychwelyd, neu a fyddai cleientiaid yn dod yn ôl atom ni. Yn ystod y cyfnod clo, roeddem eisiau adeiladu ein brand a sefydlu ein hunain ar y cyfryngau cymdeithasol i ddenu cleientiaid newydd. I wneud hyn, fe lwython ni diwtorialau cartref i ddiddanu cleientiaid.

Fodd bynnag, nid hynny oedd ein her fwyaf. Yn ystod y cyfnod clo, fe gollon ni 50-60% o'n cleientiaid, gan nad oeddynt yn gallu teithio i Gaerdydd. Roedd hyn wedyn yn cyflwyno'r risg iddyn nhw fynd i salonau gwallt eraill oedd yn lleol iddyn nhw. Er mwyn addasu i hyn, fe benderfynon ni gynnig gwasanaethau symudol ar y diwrnodau nad oeddem yn y salon, i sicrhau ein bod ni'n dal i wasanaethu'r cleientiaid hynny.

Hyd yn oed yn ystod y cyfnod heriol, dyma'r penderfyniad gorau rydym wedi ei wneud. Rydym yn mwynhau mynd i'r gwaith bob dydd, dysgu pethau newydd ac wynebu heriau newydd. Rydym wir yn mwynhau gweithio i ni ein hunain, ac rydym yn gweithio'n dda gyda'n gilydd, ac yn cydnabod cryfderau'r naill a'r llall.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Kasey a Dani gyda Busnes Cymru ar ôl penderfynu buddsoddi eu 12 mlynedd o brofiad a chychwyn eu salon gwallt eu hunain. Gwnaethom fynychu gweithdy dechrau busnes, a derbyn help gan ein hymgynghorydd busnes Yusuf Behardien, gyda chymorth ar strwythur busnes, sicrhau benthyciad adfer banc o £10k, rhentu lleoliad, treth a marchnata.

Hefyd, cofrestrodd y pâr entrepreneuraidd i Addewid Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru, gan ymrwymo i:

  • Ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr, parchu natur ddwyieithog Cymru a darparu cyfleoedd cyfartal i bobl rentu cadair neu geisio cyflogaeth;
  • Gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol a defnyddio deunydd pecynnu priodol.

Llwyddodd Kasey a Dani i dyfu'r busnes, er gwaethaf nifer o heriau a godwyd yn sgil Covid-19 – o rentu cadeiriau ym mis Chwefror, i sicrhau eu lleoliad eu hunain ym mis Gorffennaf, ac ystyried recriwtio eu haelod staff cyntaf.

Canlyniadau

  • Wedi dechrau'n llwyddiannus
  • Creu 2 swydd
  • Sicrhau Benthyciad Adfer Banc o £10,000 i helpu gyda chostau cyffredinol yn ystod y cyfnod clo
  • Cofrestru i Addewid Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru

Cawsom gwrdd â Yusuf am y tro cyntaf wrth fynd ar gwrs Busnes Cymru flwyddyn yn ôl. Ar y diwrnod hwnnw, fe ddysgon ni lawer ganddo, ac roedd gennym syniad fwy clir o sut i gychwyn busnes. Cadwodd mewn cysylltiad â ni, i weld sut oedd pethau'n mynd, ac roeddem yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Mae Yusuf wedi ateb unrhyw gwestiynau oedd gennym ni ynghylch busnes. Fe gynghorodd ni i ofyn am gyfnod di-rent am ychydig fisoedd ar gyfer ein salon newydd, tra ein bod ni'n gwneud adnewyddiadau. Nid oeddem yn gwybod fod hyn yn bosib ar gyfer lleoliadau rhent masnachol. Cawsom gyfnod o fis am ddim, oedd yn ddefnyddiol iawn.

Yn ystod y cyfnod clo, cadwodd mewn cysylltiad â ni drwy alwadau ffôn, sgyrsiau fideo ac e-byst, i sicrhau ein bod ni'n ymwybodol o'r cymorth oedd ar gael i ni. Llwyddom i sicrhau benthyciad busnes gyda help Yusuf. Hefyd, fe helpodd ni gyda rhai problemau cysylltiedig â threth, ein rhoi ni mewn cysylltiad â sefydliadau eraill i gael cymorth pellach, yn cynnwys cyflogi cynorthwyydd, cyfryngau cymdeithasol a chyllid.

Rydym wedi dilyn cyrsiau defnyddiol eraill gan Fusnes Cymru, ac rwyf wedi argymell Yusuf i berchennog busnesu arall - mae hithau hefyd yn meddwl ei fod yn ddefnyddiol a gwybodus iawn.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae gan Kasey a minnau ychydig o gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn gyntaf, hoffem gyflogi cynorthwyydd, er mwyn i'r ddwy ohonom barhau â'n ddiddordeb mewn addysgu. Hefyd, hoffem rentu cadair i dyfu ein tîm a helpu gyda'n twf ariannol, fyddai'n ein galluogi ni i adnewyddu ein seler yn ystafell harddwch/holistig. Byddai hyn yn ein helpu ni i ddatblygu a chynnig gwasanaeth arall i'n cleientiaid wrth gael gwneud eu gwalltiau. Hoffem barhau i adeiladu ein sylfaen gleientiaid, a chael rhestr aros rhyw ddydd.

Rydym hefyd eisiau parhau i ddysgu sgiliau newydd ar sut i wella ein gwaith o redeg busnes. Hoffem wella ein sgiliau marchnata ac adeiladu ein cyfryngau cymdeithasol.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.