BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Dad’s Farm Ltd.

Dad’s Farm Ltd.

Busnes bio-olosg newydd a sefydlwyd gyda chefnogaeth Busnes Cymru yng Ngorllewin Cymru yn gobeithio cyfrannu at Gymru carbon niwtral.

Gyda phrofiad busnes a ffermio, penderfynodd Carys Taylor a'i gŵr Hemi arallgyfeirio ac ychwanegu at incwm eu fferm drwy lansio busnes newydd, datblygu cynhyrchion bio-olosg – probiotig siarcol sy'n addas ar gyfer garddio/garddwriaeth, amaethyddiaeth a hydroffoneg. Gyda chymorth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, lansiodd Carys a Hemi Dad's Farm Ltd yn llwyddiannus, ac maent eisoes yn awyddus i dyfu a recriwtio wrth i'w marchnadoedd ddatblygu.

  • Llwyddwyd i gychwyn busnes a chreu 2 swydd.
  • Cymorth busnes cyffredinol i gychwyn busnes.
  • Cyngor arbenigol ar gynaliadwyedd a thendro.
  • Mabwysiadwyd Adduned Twf Gwyrdd Busnes Cymru yn canolbwyntio ar ddefnyddio deunyddiau crai, pecynnu/diwedd oes, brandio a marchnata.

Cyflwyniad i’r busnes

Mae Dad’s Farm Biochar yn helpu ffermwyr, garddwyr a thyfwyr cartref i wella eu pridd, cynyddu cynhyrchiant a chyfrannu at leihau allyriadau CO2 mewn ffordd syml a naturiol.

Mae'r busnes yn cynhyrchu bio-olosg fforddiadwy, 100% naturiol sy'n gyfoethog o ran carbon ac wedi'i wneud o goetiroedd cynaliadwy'r DU. Drwy ddal a storio CO2 o'r atmosffer a'i ymgorffori yn y pridd, mae eu cynnyrch bio-olosg yn helpu i leihau ein hôl troed carbon a'n dibyniaeth ar wrteithiau cemegol tra ei fod yn rhoi maeth yn ôl yn y pridd yn naturiol.

Cawsom sgwrs gyda'r Cyfarwyddwyr Carys a Hemi i ddysgu mwy am eu taith fusnes a darganfod pam fod cynaliadwyedd mor bwysig i'r busnes:

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun a chanolbwyntio ar gynaliadwyedd?

15 mlynedd yn ôl, dewisodd y ddau ohonom newid ein ffordd o fyw a symud o Gaerdydd i Geredigion gan brynu fferm ar yr arfordir gydag ychydig o dan 120 erw. Cyn symud, roedd gan y ddau ohonom swyddi, roeddem yn mwynhau ffordd gyfforddus o fyw ac yn teithio'r byd.

Ar yr un pryd, daethom yn ymwybodol o'r newidiadau eithafol yn yr hinsawdd oherwydd bod y blaned yn cynhesu, drwy orddibyniaeth ar danwydd ffosil ac allyriadau CO2 sy’n niweidio haen oson y Ddaear.

Dechreusom gadw cig eidion a defaid, a phenderfynu'n gynnar yr hoffem ffermio mor hunangynhaliol a chynaliadwy â phosibl, felly dechreusom ymchwilio i nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy ac arallgyfeirio: aethom ati i fuddsoddi mewn system pwmp gwres o’r ddaear ar gyfer bwthyn gwyliau yn ogystal â phŵer solar a boeler biomas ar gyfer y fferm ei hun. Mae ein boeler biomas yn cael ei bweru gan naddion pren, sy'n dod gan gyflenwr cynaliadwy lleol.  

Yna, un diwrnod, wrth i’n merch ifanc fy ngwylio'n glanhau’r llosgwr gofynnodd: "beth wyt ti'n mynd i'w wneud â hwnna, Dad...?" a oedd yn gwestiwn da. Fel ffermwr darbodus, rwy'n aml yn ailgylchu deunyddiau o amgylch y fferm, a gwnaeth hyn i mi ddechrau meddwl. Roeddwn wedi clywed am fio-olosg wrth wneud fy ymchwil i fiomas, felly euthum yn ôl eto ac edrychais i weld beth oedd yn digwydd yn y maes hwn yn y DU. Felly, teflais y rhwyd yn ehangach ac edrych ar Sweden, yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd gan eu bod yn tueddu i fod yn arloesol iawn gydag atebion amgylcheddol.

Byddai unrhyw ffermwr yn dweud wrthych mai un o'r cynhyrchion drutaf y maent yn ei brynu'n flynyddol yw gwrtaith cemegol. Ar wahân i arbedion cost, gwelsom drwy ein hymchwil fod manteision amgylcheddol lluosog o gynhyrchu bio-olosg ar gyfer amaethyddiaeth, gan gynnwys gwella’r gyfradd o ddal a storio carbon wrth ei ychwanegu at bridd, llai o nwyon tŷ gwydr o'u hychwanegu at borthiant da byw a threfn gynaliadwy o reoli tir gan arwain at fioamrywiaeth well a dibynnu llai ar wrteithiau cemegol. Mae potensial bio-olosg fel storfa garbon yn aruthrol.

Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu?

Dyma’r heriau rydym wedi'u hwynebu:

  • Ymwybyddiaeth – er nad yw cynhyrchu bio-olosg yn gwbl newydd, mae'n sicr yn farchnad arbenigol ac mae ymwybyddiaeth yn y DU yn eithaf isel.
  • Cystadleuwyr – mae gwerthwyr ar-lein uniongyrchol eraill. Er nad ni yw'r cyntaf i'r farchnad, efallai mai ni yw un o'r newydd-ddyfodiaid cynnar ac mae ein hamrywiaeth o gynnyrch bio-olosg yn wahanol i'r rhai sy’n cystadlu â ni yn yr un maes. Rydym eisoes yn meddwl am gynhyrchion newydd eraill y gallem eu cyflwyno i'r farchnad.
  • Sefydlu partneriaethau manwerthu allweddol.
  • Codi ein proffil ar-lein ac ymwybyddiaeth o’n brand.

Cymorth Busnes Cymru

Ar ôl cael eu hatgyfeirio gan wasanaeth Cyflymu Busnes Cymru, gweithiodd Carys a Hemi gyda Rheolwr Perthynas Busnes Cymru Catherine Orton, a'u helpodd trwy gynnig cyngor cyn cychwyn busnes, cynllunio, ymchwilio i’r cynnyrch a’r farchnad, strategaethau datblygu busnes, brocera perthynas a llwybrau ariannu. Cyflwynodd Cath y cwpl entrepreneuraidd i BICInnovation am gyngor ar brosesau gweithgynhyrchu a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi.

Elwodd Carys a Hemi hefyd ar gymorth arbenigwr cynaliadwyedd, Gareth Davies, a werthusodd eu cynnig busnes gan archwiliodd ei effaith o ran cynaliadwyedd, o ddeunyddiau crai i ddiwedd oes. Rhoddodd Gareth gyngor hefyd ar ddeunydd pacio, cyfleoedd busnes ac achrediadau amgylcheddol, gan eu hannog i gymryd rhan yn rhaglen BioAccelerate 2020 AberInnovation Prifysgol Aberystwyth.

Canlyniadau 

  • Llwyddwyd i gychwyn busnes a chreu 2 swydd.
  • Cymorth busnes cyffredinol i gychwyn busnes.
  • Cyngor arbenigol ar gynaliadwyedd a thendro.
  • Mabwysiadwyd Adduned Twf Gwyrdd Busnes Cymru yn canolbwyntio ar ddefnyddio deunyddiau crai, pecynnu/diwedd oes, brandio a marchnata.
  • Rydym wedi bod yn ffodus i gael cyngor arbenigol gan ychydig o arbenigwyr yn Busnes Cymru, sydd wedi ein helpu i wneud y gorau o'r cyfleoedd i fusnesau newydd yn ystod Covid-19. Helpodd yr ymgynghorwyr ni i sefydlu strwythur ein cwmni, cynaliadwyedd, IP, tendro, presenoldeb ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

Rydym eisoes wedi cyflawni cymaint yn y 12 mis diwethaf:

  • Rydym wedi llwyddo i ddod â'n cynnyrch i’r farchnad.
  • Wedi derbyn adborth cadarnhaol gan gwsmeriaid.
  • Sefydlu cwmni cyfyngedig.
  • Lansio ein gwefan a'n siop ar-lein.
  • Rydym yn codi ymwybyddiaeth o fanteision bio-olosg.
  • Rydym wedi cymryd rhan yn Rhaglen BioAccelerate Arloesi AberInnovation 2020.
  • Ac rydym yn gweithio ar nifer o gynlluniau ar y cyd â phartneriaid.

Ein nod yn awr yw parhau i wneud cynhyrchion biosiar sy'n llawn carbon sy'n cynhyrchu planhigion, llysiau ac anifeiliaid gwell ac iachach am bris fforddiadwy, a bod yn rhan weithredol o'r economi gylchol yng Nghymru.

Os ydych chi eisiau darllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i gychwyn neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos  neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.