BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Rhwydwaith Cymunedau Dysgu

Learning Communities Network

Menter-wraig o Bowys yn lansio busnes hyfforddiant ar-lein, sy’n canolbwyntio ar gyrsiau datblygiad proffesiynol a phersonol. 

Yn addysgwr oedolion profiadol sydd wedi datblygu a chynnal cyrsiau ar-lein ers sawl blwyddyn, penderfynodd Siobhan Riordan fuddsoddi ei gwybodaeth, ei sgiliau a’i chred mewn creu math newydd o hyfforddiant rhithwir newydd gan ddefnyddio model Cymuned Ddysgu. Derbyniodd y Rhwydwaith Cymunedau Dysgu gefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, gan lansio’n llwyddiannus. Mae eisoes yn denu cwsmeriaid o leoedd mor bell i ffwrdd ag Awstralia, ac UDA. 

  • Dechrau da ac un swydd wedi’i chreu.
  • Cyngor busnes newydd ac arbenigol ar gynllunio busnes ac ariannol, marchnata a phresenoldeb ar-lein.
  • Ymrwymiad i Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru, i sicrhau bod y busnes yn gweithredu mewn ffordd gynhwysol.
  • Ymrwymiad i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru i sicrhau gweithrediadau sy’n gyfrifol yn gymdeithasol.

Cyflwyniad i fusnes

Sefydlodd y fenter-wraig Siobhan Riordan y Rhwydwaith Cymunedau Dysgu (LCN) er mwyn dwyn ynghyd tîm o addysgwyr academaidd, galwedigaethol a chreadigol i gyflawni Cymunedau Dysgu. 

Mae Cymunedau Dysgu wedi cael eu creu er mwyn cydnabod yr angen am sgiliau newydd i fodloni’r heriau o fyd sy’n newid yn gyflym tu hwnt. Mae’r cysyniad yn defnyddio dulliau addysgu cyfranogol, ac yn canolbwyntio ar greu prosesau dysgu ar sail profiad ymarferol. 

Cawsom gyfle i holi Siobhan i ddysgu mwy am daith ei busnes newydd: 

Pam benderfynoch chi ddechrau eich busnes eich hun? 

Cefais fy niswyddo ym mis Tachwedd. Rwy’n 57 oed ac ar ôl gweithio yn y sector elusennol rhan fwyaf fy mywyd, does gen i ddim asedau na chynilon y tu cefn i mi. Gyda chymaint o sectorau wedi cael eu chwalu gan Covid-19, mae’r farchnad swyddi yn hynod gystadleuol, a doedd gen i ddim digon o egni i gystadlu. Felly, gofynnais i mi fy hun, beth ydw i eisiau fwyaf mewn bywyd? Daeth tair blaenoriaeth i’r amlwg: 

1.    Treulio diwrnodau gyda fy nghi annwyl, Elsa. Yn gi stryd o Fosnia, achubais i hi pan roedd yn 8 mis oed. Roedd yn gi gwyllt ac wedi profi trawma sylweddol yn ystod ei bywyd byr, symudodd i mewn gyda mi. Ro’n i’n gwella ar ôl cael trawiad ar y galon a chefais wybod bod fy nghyflwr calon yn un genetig, a bod dim gwellhad. Ro’n i’n gwybod bod angen i mi fod yn ffit, roedd angen i mi gael ci i fynd â mi allan am dro pob dydd. Ac felly, bedair blynedd yn ôl, daeth y greadures ffantastig hon i fy mywyd, ac mae’n dod â llawenydd i mi pob dydd. Felly hi yw fy mlaenoriaeth gyntaf.

2.    Er mwyn cyflawni fy nharged cyntaf, roedd angen i mi weithio o gartref. Rwyf wedi bod yn rhedeg cyrsiau ar-lein yn fy swydd bresennol ac rwy’n hyderus yn y byd rhithwir. Mae gen i sgiliau technoleg, ac rwy’n hen law ar gyflwyno fel hyn. 

3.    Ro’n i eisiau treulio fy niwrnodau’n gwneud rhywbeth yr oeddwn i’n teimlo’n angerddol drosto. Fel addysgwr gyda dros 30 mlynedd o brofiad, rwy’n gwirioni ar ddylunio a chreu cyrsiau. Gyda Covid-19, mae’r symudiad at ddarpariaeth ar-lein wedi gweld cynnydd sylweddol yn y farchnad, a dyma oedd y gofod naturiol i mi fynd ar ôl fy angerdd.

Gyda’r tri nod hyn, ganwyd Rhwydwaith Cymunedau Dysgu ym mis Tachwedd, ac o fewn 3 wythnos o ddyddiau 18 awr, lansiais fy musnes ar-lein ar 6 Rhagfyr 2020. 

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Gyda degawdau o brofiad, roedd gen i’r holl ddeunyddiau cwrs a chynnwys ar gyfer fy musnes, ond roedd marchnata digidol yn hollol newydd i mi. Ro’n i’n gwybod y byddai angen gwefan arna’ i, ond doedd gen i ddim arian i dalu am un. Felly, roedd angen i mi wella fy sgiliau, a hynny’n gyflym! Her barhaus arall yw adnabod a dod o hyd i ffyrdd i dargedu fy nghwsmeriaid. Ro’n i’n lwcus iawn pan wnaeth Lesley Mulvihill, o Positively Powered yn UDA, gynnig help llaw i ddatblygu fy ngwefan. Gyda hyn fel sail, ro’n i’n barod amdani.  

Cymorth Busnes Cymru

Gyda chymorth cynghorwyr cyffredinol a busnes arbenigol Busnes Cymru, Debra Davies-Russell a Catherine Rowland, mae Siobhan wedi gallu datblygu ei chynllun busnes a rhagolygon ariannol, a diffinio ei strategaeth brisio a brandio. Rhoddodd Busnes Cymru hefyd gyngor ar ddatblygu gwefan a marchnata ar gyfryngau cymdeithasol, gan helpu Siobhan i ddenu cleientiaid mor bell i ffwrdd ag Awstralia.  

Gan ei bod wedi gweithio gyda mentrau cymdeithasol o’r blaen, roedd Siobhan yn cydnabod pa mor bwysig oedd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a hyrwyddo LCN fel busnes cyfrifol. O ganlyniad, gweithredodd bolisi amgylcheddol a chofrestru ar gyfer addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru, gan roi hwb i’w henw da ymysg rhanddeiliaid ac amlygu camau y mae’r busnes yn eu cymryd i leihau ei effaith amgylchedd.

Yn ogystal, mae Siobhan wedi datblygu polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan o’i Haddewid Cydraddoldeb, a bydd yn canolbwyntio ymhellach ar ei phresenoldeb ar-lein gyda chymorth gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau. 

Deilliannau

  • Dechrau da ac wedi creu un swydd.
  • Cyngor busnes newydd ac arbenigol ar gynllunio busnes a chynllunio ariannol, marchnata a phresenoldeb ar-lein.
  • Ymrwymiad i Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru er mwyn sicrhau bod y busnes yn gweithredu mewn ffordd gynhwysol.
  • Ymrwymiad i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru i sicrhau gweithrediadau cyfrifol yn gymdeithasol. 

Gwelais hysbyseb am ReAct ar y cyfryngau cymdeithasol – cronfa Llywodraeth Cymru ar gyfer ail-hyfforddi’r rheiny sy’n cael eu diswyddo. Cefais gwrdd â chynghorydd ardderchog (Avril Wood) o Gyrfa Cymru wnaeth wirioneddol fy annog, a gweld gwerth yn fy musnes. Llwyddais i sicrhau grant a chymryd rhan mewn llawer o gyrsiau un-dydd mewn agweddau gwahanol ar farchnata digidol. O hyn, cefais fy nghyfeirio at Fusnes Cymru. Rhoddodd fy nghynghorwyr, Debra a Catherine – eto, dwy fenyw, anogaeth a sicrwydd amhrisiadwy ynghylch fy musnes. Gwnaethant fy helpu i greu cynllun busnes a blaenoriaethu’r meysydd yr oedd angen i mi fuddsoddi’r amser cyfyngedig oedd ar gael i mi ynddynt. Helpon nhw fi hefyd i gael gafael ar gyfleoedd i ddysgu ar-lein, cyngor arbenigol am gyfrifoldebau bod yn berchen ar wefan, sicrhau Addewid Twf Gwyrdd ac Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru, ac roeddent yn anogwyr gwerthfawr iawn ar hyd y daith at greu busnes newydd. 
Roedd cael mynediad at gynghorwyr busnes yn golygu bod gennyf gefnogaeth hanfodol pan roedd ei hangen fwyaf arna’ i. Ro’n i’n lwcus iawn o’u cael fel cynghorwyr, a bydd eu cyfraniad a’u cefnogaeth yn cael effaith hirdymor ar fy musnes. 

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

‘Dw i am i Rwydwaith Cymunedau Dysgu ddod yn blatfform ar gyfer addysg ac addysgwyr arloesol. Fy strategaeth gyntaf yw cael achrediad Datblygiad Proffesiynol Parhaus i’r cyrsiau gyda’r Gwasanaeth Ardystio DPP. Yr ail strategaeth yw marchnata drwy flogiau. Buddsoddais i gwrs Susie Moore ar sut i gael eich cyhoeddi ar y rhyngrwyd. Ar ddechrau fy nhaith, sylweddolais fy mod i’n casáu'r cyfryngau cymdeithasol! ‘Dw i ddim eisiau treulio diwrnodau ar Facebook neu Instagram, felly roedd dysgu fy mod i’n gallu marchnata trwy ysgrifennu blogiau yn wych. Fy nharged ar gyfer eleni yw cael rhan “Gweler yn…” ar fy ngwefan, gyda dolenni at fy holl erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi.

Fel academydd sydd wedi’i gyhoeddi, rwy’n hyderus wrth ysgrifennu, ac rwy’n teimlo’n gyffrous am ddysgu am y maes hollol newydd hwn o farchnata digidol. Dyma flog gwych a ysgrifennais yn ddiweddar: <https://www.learningcommunitiesnetwork.com/1179-2/>

Yn olaf, hoffwn ddatblygu fy nghyrsiau i fod yn Ddyfarniadau Lefel 2 neu 3, achrededig, drwy weithio ar y cyd gydag Open Awards.
Os hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu ddilynwch @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.