BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

White Fox Consulting

White Fox Consulting

Mae cwmni ymgynghori o Gwmbrân wedi ymuno ag Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru ac yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynaliadwyedd i fusnesau bach a chanolig (BBaCh).  

Mae White Fox Consulting yn helpu sefydliadau o bob maint i oresgyn rhwystrau a thyfu. Gweithiodd y Cyfarwyddwryr Gaby Cocchiara a Natasha Harries gydag ymgynghorydd cynaliadwyedd Busnes Cymru ac ymuno â'r Addewid Twf Gwyrdd - ffordd hawdd a syml i BBaCh fabwysiadu gwelliannau cynaliadwyedd. O edrych ar ôl llesiant staff, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19, i leihau eu hôl troed carbon ac anfon cardiau Nadolig hadau blodau gwyllt, mae'r busnes eisoes wedi rhoi ystod o fesurau cynaliadwyedd ar waith wrth annog BBaCh i wneud eu rhan.

Cyflwyniad i’r busnes

Gyda dros 70 mlynedd o brofiad cyfunol, mae White Fox Consulting yn gwmni ymgynghori sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad masnachol i sefydliadau o bob maint, gan gynnwys gwasanaethau ariannol, cwmnïau gwerthu a busnesau technoleg newydd, gan eu helpu i ailstrwythuro, cynhyrchu refeniw a chynyddu eu potensial i dyfu. 

Fe wnaethom ddal i fyny â Chyfarwyddwr White Fox, Natasha Harries, i gael gwybod mwy am werth cynaliadwyedd i'r busnes.

Sut mae’r Addewid Twf Gwyrdd a’ch ymgynghorydd Busnes Cymru wedi eich ysbrydoli i fod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd?

 
Fel gydag unrhyw beth mewn bywyd, dydych chi ddim yn ymwybodol o'r hyn nad ydych chi wedi'i ddysgu neu gael eich addysgu amdano eto. Nid yw dod yn ymwybodol o'r hinsawdd a’r amgylchedd yn digwydd dros nos, ac mae'n cymryd amser i ddeall maint y mater dan sylw.

Er bod gennym rai eco-bolisïau mewn grym yn barod, mae bod yn rhan o'r Addewid Twf Gwyrdd wedi caniatáu i bawb yn White Fox Consulting dyfu a datblygu fel unigolion, yn ogystal â thîm, wrth wneud ein busnes yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd.

Nid yn unig y caniataodd i ni ddatblygu strategaethau i helpu i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd, fe wnaeth hefyd ein helpu i arbed arian a lleihau ein costau fel busnes – a oedd yn hanfodol yn ystod pandemig byd-eang!

Fel y gŵyr pob perchennog busnes mae’n siŵr, mae gallu mapio, cynllunio a strategaetholi'ch camau nesaf yn allweddol i'ch llwyddiant. Rhoddodd yr Adduned Twf Gwyrdd y cyfle hwnnw i ni a’n harwain i sicrhau canlyniadau epig.

Hoffwn ddiolch i Paul [ein Hymgynghorydd Cynaliadwyedd Busnes Cymru] am ei gefnogaeth barhaus, ac edrychaf ymlaen at weld sut bydd White Fox yn parhau i ddatblygu’n gwmni gwyrddach fyth yn sgil y cynllun hwn.

Beth fyddai eich cyngor chi i fusnesau bach eraill sy’n meddwl efallai bod mesurau cyfeillgar i'r amgylchedd y tu hwnt i'w gallu?

Hoffwn rannu dyfyniad gan yr awdur Anna Lappe gyda’r busnesau hynny: “Bob tro rydych yn gwario arian, rydych yn bwrw pleidlais dros y math o fyd yr hoffech ei gael.” Gan fod busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 98% o fusnesau yn y DU heddiw, mae hwn yn gyfle anhygoel i ni gael effaith gadarnhaol ar y blaned.

Er enghraifft, pan fyddwch chi'n prynu nwyddau electronig rhad, wedi'u gwneud yn wael, rydych chi'n bwrw'ch pleidlais dros blastigau defnydd untro, metel sy’n cael ei gloddio gan blant a chynnyrch wedi'i wneud yn wael sy’n torri mewn dim. Fodd bynnag, pe baech chi’n prynu cyfrifiaduron ail law o ansawdd, wedi'u hadnewyddu, byddech chi nid yn unig yn cefnogi'r busnes bach i ailwampio'r nwyddau trydanol hynny, ond yn eu harbed hefyd rhag cael eu taflu i safleoedd tirlenwi, gan leihau eich ôl troed carbon yn sylweddol. Mae'n hanfodol eich bod chi, fel perchennog busnes, yn deall bod gan eich sefydliad y pŵer i wneud newid sylweddol i'r byd rydych chi am fyw ynddo.

Ychydig iawn o amser mae’n ei gymryd i ymchwilio i'r cynnyrch a'r gwasanaethau rydych chi'n eu prynu, ac eto mae’n cael effaith fawr iawn. Bydd gwneud ymdrech ymwybodol i siopa’n gynaliadwy yn arbed y blaned, yn cefnogi busnesau bach eraill, ac yn amlach na pheidio, yn arbed arian i chi – felly mae pawb ar eu hennill!

Pa gamau ydych chi wedi eu cymryd fel rhan o’ch ymrwymiad i Adduned Twf Gwyrdd?

Llesiant staff a’n cymuned leol

Ers ymuno â’r Adduned Twf Gwyrdd, mae’n ddiogel dweud nad yw amodau byd-eang o ran Covid-19 wedi gwella, a nawr yn fwy nag erioed, mae White Fox Consulting wedi gorfod gwneud ymdrech ymwybodol i gefnogi llesiant ein staff a’n cymuned leol.

Yn ddiweddar, rydym wedi cynhyrchu cylchlythyrau e-bost wythnosol ar gyfer ein staff. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol fel manylion cynnyrch, canllawiau hyfforddi a chymhellion tîm, yn ogystal â chanllawiau cymorth ar gyfer cynnal iechyd meddwl da. Mae hyn yn hanfodol ac yn dangos i'n staff ein bod yn parhau i’w cefnogi nhw, ynghyd â chaniatáu iddyn nhw ddatblygu a ffynnu wrth weithio gartref.

Ym mis Tachwedd 2020, fe ddanfonon ni becynnau gofal i bob aelod o staff, ac roedden nhw wrth eu boddau gyda nhw! Roedd y pecynnau’n cynnwys eitemau fel te a choffi masnach deg, poteli dŵr amldro ac amryw o nwyddau bach eraill i godi eu hysbryd – i gyd wedi’u danfon mewn blychau cardbord ailgylchadwy.

Rydym hefyd wedi gallu rhannu peth o'r wybodaeth a gawson ni gan Busnes Cymru gyda busnesau bach a chanolig lleol eraill, yn ogystal â chael trafodaethau hir am strategaethau sy’n ymwneud â bod yn fwy cynaliadwy. Bydd White Fox Consulting yn parhau i ‘ledaenu’r gair’ am sut rydym yn datblygu i fod yn weithlu llawer mwy cynaliadwy trwy ein rhwydweithio a’r cyfryngau cymdeithasol.

Mesur Effeithiau

Ers ymuno â’r Adduned Twf Gwyrdd, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran mesur ein heffaith ar y blaned a’n hamgylchedd. Rydym yn chwilio drwy’r amser am strategaethau a pholisïau newydd i’w gweithredu a fydd yn ein gwneud ni’n ymgynghoriaeth fwy cynaliadwy yn y pen draw. Ym mhob man yn ein swyddfa, mae ’na finiau ailgylchu pwrpasol, rydym yn defnyddio padiau ysgrifennu wedi’u hailgylchu a chetrisau inc argraffydd amldro, ac wedi penderfynu parhau i wneud newidiadau cadarnhaol eraill o ran yr hinsawdd.      

Brand a Marchnata

Rydym wedi gwneud gwelliannau enfawr i gynaliadwyedd ein brand a’n marchnata. Er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’n cartref ar y cyd, sef y Ddaear, rydym wedi ymuno ag Ecologi – cwmni a’i unig genhadaeth yw helpu unigolion a sefydliadau i daclo argyfwng yr hinsawdd. Rydym yn talu ffi fisol dros ein gweithwyr, sy’n cael ei buddsoddi mewn prosiectau sy’n lleihau ein hôl-troed carbon. Hyd yn hyn, mae Ecologi wedi plannu 82 o goed ar ein rhan fel rhan o Brosiect Ailgoedwigo Eden.

Yn ogystal, fe anfonon ni’r rhan fwyaf o’n cyfarchion Nadolig drwy e-bost y llynedd. Fodd bynnag, pan oedd angen cerdyn go iawn arnon ni, fe brynon ni gardiau wedi’u gwneud o bapur ailgylchadwy oedd yn llawn o hadau blodau gwyllt. Unwaith mae’r Nadolig drosodd, yn lle taflu’r cerdyn, rydych chi’n ei blannu ac mae’n tyfu blodau gwyllt, sy’n arbennig o dda i wenyn a gloÿnnod byw.

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Fel rhan o’r Adduned Twf Gwyrdd, mae gan White Fox Consulting ddau brif nod:

  1. Parhau i ddysgu a datblygu fel unigolion ac fel cwmni. Does dim ateb ‘bwled arian’ i newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, gall PAWB ddal ati i addysgu’n hunain ac eraill o’n cwmpas, parhau i wneud dewisiadau gwell mewn bywyd bob dydd a dal i geisio rhoi gwell yfory i’n planed.
  2. Defnyddio ein llwyfan fel ymgynghoriaeth reoli i godi ymwybyddiaeth ac annog eraill i fod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd. I lawer o gwmnïau, nid yw cynaliadwyedd ar flaen eu rhestr o flaenoriaethau, yn anffodus. Byddwn yn parhau â’r sgwrs, gan wneud eraill yn ymwybodol o’r polisïau rydym wedi’u gweithredu a’r newidiadau rydym wedi’u gwneud, wrth annog eraill i wneud yr un peth.   

I ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch I https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.