BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Your Day Your Way

Busnes cynllunio digwyddiadau o’r Barri yn goresgyn helbulon Covid-19 i sicrhau ei ddyfodol a chynllunio ar gyfer twf yn 2021.

A hithau’n wynebu heriau mawr a rhai penderfyniadau anodd, cysylltodd Carolyn Oliver, entrepreneur o’r Barri, â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gael help i gadw’i busnes i fynd er gwaethaf y pandemig Covid-19. Gweithiodd gyda chynghorydd busnes i lunio cynllun argyfwng a chynllun wrth gefn er mwyn diogelu ei busnes a’i swydd, gan gynllunio yr un pryd ar gyfer ymestyn a thyfu’r busnes yn y dyfodol.

  • Cyngor busnes i ddiogelu’r busnes a’r swyddi cysylltiedig yn ystod y pandemig Covid-19
  • Llwyddwyd i gael benthyciad o £6,000 gan Fanc Datblygu Cymru
  • Help i hwyluso’r gwaith o symud i safle newydd a mwy, er mwyn helpu’r busnes i dyfu yn y dyfodol.

Cyflwyniad i’r busnes

Cafodd Your Day Your Way, sydd wedi’i leoli yn y Barri, ei lansio gan Carolyn Oliver yn 2014. Mae’r busnes yn cynnig gwasanaeth addurno a chynllunio digwyddiadau annibynnol arbenigol ledled De Cymru. Mae’n darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, yn cynnwys priodasau, bedyddiau, dawnsfeydd a phartïon graddio, digwyddiadau elusennol, a phartïon corfforaethol a phreifat.

Pa heriau a wyneboch?

I ni, bu 2019 yn flwyddyn anhygoel ac roedd hi’n ymddangos y byddai 2020 yn well wedyn, hyd yn oed. Roeddem wedi bwriadu symud i siop well a chyflogi tîm o staff er mwyn ehangu’r busnes. Ac yna, daeth Covid-19… Dyma rai o’r heriau y bu’n rhaid inni eu hwynebu yn sgil y pandemig.

  • diffyg incwm
  • dim priodasau’n cael cu cynnal
  • dim digwyddiadau’n cael eu cynnal, hyd yn oed partïon preifat bach
  • dim lleoliadau ar agor
  • dim busnes

Roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael grant gan Lywodraeth Cymru. Llwyddodd i aildanio fy nychymyg unwaith eto, a rhoi hwb imi i gario ’mlaen. Fodd bynnag, roedd y gorbenion yn pentyrru, a doedd y grant ddim yn ddigon, felly dechreuais fynd i banig unwaith eto. Arferwn chwilio trwy’r rhyngrwyd bob dydd i weld beth oedd ar gael, gan bori trwy bob un o wefannau’r llywodraeth i weld a fyddai modd i mi gael gafael ar gyllid ychwanegol. Ond ni fûm fawr elwach.

Cymorth Busnes Cymru

Penderfynodd Carolyn gysylltu â Busnes Cymru gan ei bod yn ofni bod ei busnes a’i bywoliaeth yn y fantol oherwydd yr effeithiau andwyol a gâi’r pandemig ar ei sector – roedd yr arian ar fin dod i ben ac nid oedd unrhyw obaith o waith tan fis Mawrth 2021. Gweithiodd gydag Yusuf Behardien, cynghorydd busnes, a chafodd lawer o gymorth, yn cynnwys help gyda’i rhagolygon ariannol, help i lunio cynllun goroesi a helpu i osod targedau.

Aeth Yusuf ati i helpu Carolyn i wneud cais am fenthyciad o £6,000 gan Fanc Datblygu Cymru fel cyfalaf ychwanegol – a bu’r cais yn llwyddiannus. Hefyd, aeth ati i chwilio am ffrydiau refeniw a strategaethau arallgyfeirio newydd yn ystod y cyfnodau tawel. Bu modd i Carolyn roi gwasanaeth ‘llogi yn unig’ ar waith, ac arweiniodd hyn at yr angen am safle mwy – rhywbeth a fydd hefyd yn cynnig cyfleoedd pellach i ymestyn yn y dyfodol.

Yn awr, mae Yusuf yn archwilio opsiynau eraill i godi arian, yn cynnwys y Gronfa Adferiad Diwylliannol, i helpu gyda heriau Covid-19.

Canlyniadau

  • cyngor busnes i ddiogelu’r busnes a’r swyddi cysylltiedig yn ystod y pandemig Covid-19
  • llwyddwyd i gael benthyciad o £6,000 gan Fanc Datblygu Cymru
  • help i hwyluso’r gwaith o symud i safle newydd a mwy, er mwyn helpu’r busnes i dyfu yn y dyfodol.

Gan fod yr effaith ar y diwydiant cynnal digwyddiadau a phriodasau wedi bod mor enfawr, roeddwn ar fin rhoi’r ffidil yn y to. Rhoi’r gorau i chwe blynedd o waith caled a chwilio am swydd newydd… pan ddechreuodd Busnes Cymru ymddangos yn fy ffrwd newyddion. Cefais olwg ar yr wybodaeth ac anfonais e-bost atynt – er, roeddwn yn credu mai help ar gyfer busnesau newydd oedd ar gael, nid ar gyfer busnesau wedi ennill eu plwyf.

Rhoddwyd fi mewn cysylltiad ag Yusuf, fy nghynghorydd busnes – ac mae wedi bod yn wych. Roeddwn ar fin rhoi’r ffidil yn y to, ond roedd ganddo ef syniadau gwahanol.

Ar ôl mynd trwy chwe blynedd diwethaf fy musnes, llwyddodd Yusuf i wneud imi feddwl mewn ffordd wahanol. Aethom ati i lunio rhagolygon ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a daeth pethau’n gliriach o lawer.

Fe wnaeth Yusuf fy rhoi mewn cysylltiad â Banc Datblygu Cymru, ac aeth y Banc ati i drefnu benthyciad busnes bach ar fy nghyfer ar frys – gwirioneddol anhygoel. Deuthum o hyd i safle mwy, ond nid oeddwn yn siŵr ai rŵan oedd yr adeg iawn i symud. Ond, ar ôl mynd trwy bob dim gydag Yusuf, fe wnaethom benderfynu mai bwrw ymlaen oedd y peth gorau i’w wneud er budd y busnes.

Yn ystod y deufis diwethaf rwyf wedi cael cymaint o gymorth gan Busnes Cymru, a’r cyfan yn rhad ac am ddim. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor ddefnyddiol y gallai’r gweminarau fod. Roedd gennyf fynediad at lu o bobl brofiadol a aeth ati i ddysgu sgiliau newydd imi – yn cynnwys defnyddio cymylau, Microsoft a Facebook – a’r cyfan yn wybodaeth ddefnyddiol na wyddwn ei bod yn bodoli.

Diolch i Busnes Cymru, rwyf wedi symud y busnes, mae gennyf ragolygon ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, rwyf wedi cael toreth o wybodaeth ac rwy’n hyderus y bydd fy musnes yn goroesi’r argyfwng hwn.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Teimlad cyffrous iawn yw bod â menter newydd ar y gorwel. Rwyf wedi cydweithio gydag Aspirations UK yn y Barri i gynnig priodasau bach, partïon pen-blwydd bach a the prynhawn bach. Bydd hyn yn rhoi rhywfaint o incwm imi i’m cadw i fynd hyd nes y bydd y pandemig wedi dod i ben.

Yn ariannol, mae pethau’n iawn. Felly rwy’n dal i gyflogi staff newydd, er bod hyn yn digwydd yn hwyrach na’r bwriad.

Ac mae hyn i gyd yn digwydd diolch i’r help a’r cymorth a gefais gan Busnes Cymru.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.