BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Early Bird Bakery

The Early Bird Bakery

Becws yng Nghaerdydd sy'n helpu cogyddion ifanc, awyddus ac sydd ar fin ehangu'n sylweddol.

Lansiwyd The Early Bird Bakery yng Nghaerdydd drwy brosiect cyllido torfol gan Ceri Johnston Bower yn 2015. Mae'r becws yn cynnig prydau wedi eu coginio'n ffres a chynnyrch wedi eu pobi yn ogystal â man i gogyddion awyddus gychwyn eu gyrfaoedd coginio. Ar ôl derbyn cymorth cychwyn busnes gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, bellach mae Ceri yn ymgysylltu â chynghorydd twf i'w helpu hi gyda chynlluniau ar gyfer ehangu a chynnig gwasanaeth newydd.

  • cymorth cychwyn busnes
  • cymorth Rheoli Perthynas gyda chynlluniau i ehangu a thyfu yn y dyfodol

Cyflwyniad i'r busnes

Mae The Early Bird Bakery yng Nghaerdydd, a lansiwyd yn 2015 gan Ceri Johnston Bower, yn fecws a chaffi sy'n helpu cogyddion ifanc, awyddus i gael yr hyfforddiant a'r gefnogaeth angenrheidiol i gychwyn eu gyrfaoedd.

Mae The Early Bird Bakery yn cynnig prydau a chynnyrch wedi eu gwneud a'u pobi'n ffres, gan ddefnyddio'r cynhwysion lleol gorau posib, yn ogystal â choffïau arbennig a geir drwy gadwyni cyflenwi moesegol ac sy'n cael eu rhostio yn eu ffyrnau carreg, yn ogystal â dewis o de rhew, suddion a chordialau cartref tymhorol.

Pam oeddech chi eisiau cychwyn eich busnes eich hun?

Roeddwn yn gweithio fel cogydd crwst a phobydd yn Llundain, ond pan aeth yr hiraeth am gartref yn ormod, aethom yn ôl tua'r Gorllewin. Pan gyrhaeddom ni yng Nghaerdydd, roeddwn wedi fy siomi gyda'r diffyg cyfleoedd cyflogaeth i bobyddion crefft, felly gydag ychydig o anogaeth gan ffrindiau a theulu, penderfynais fod hunangyflogaeth yn llwybr da i'w ddilyn.

Fe wnaethom agor The Early Bird Bakery a'r caffi yn 2015 mewn cornel fach yn Cathays ger Prifysgol Caerdydd. Fe ddysgais lawer iawn yn y misoedd cyntaf, a thybiaf na fyddem wedi gallu goroesi'r cyfnod heb gymorth Busnes Cymru. Gyda llawer o waith caled, bu i ni ddenu mwy o gwsmeriaid ac nid oedd digon o le i ymdopi â'r galw. Yn 2019, daethom o hyd i'r ail leoliad perffaith, dafliad carreg i ffwrdd, o'r enw Friends in Knead. Bydd y safle'n fecws gweithdy a fydd yn caniatáu i ni ateb y galw am ein bwyd pob hyfryd, ac yn rhoi cyfle i ni ymuno â'r fasnach gyfanwerthu a chynnal dosbarthiadau pobi.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf i mi oedd ceisio rheoli fy amser yn effeithiol fel perchennog/gweithredwr. Mae'n anodd cwblhau tasgau pan fo'ch dwylo wedi eu claddu mewn toes brioche o hyd! Roeddwn yn ceisio ei dal hi ym mhobman, ac roedd hynny'n ein hatal ni rhag ehangu mor gyflym ag yr hoffem. Yn ffodus, mae gennyf dîm arbennig y tu cefn i mi nawr ac mae popeth wedi dod at ei gilydd eleni. Rwyf wedi gallu trosglwyddo rhai cyfrifoldebau gweithredol, gan roi amser i mi ganolbwyntio ar helpu'r busnes i dyfu i'w botensial llawn.

Cymorth Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru wedi bod yn cefnogi Ceri ers cychwyn ei thaith busnes. Ar hyn o bryd mae hi mewn cysylltiad â Kris Hicks, Rheolwr Perthynas, gan ei bod hi angen cymorth wrth i'r becws ehangu'n gyflym, ac o ran yr angen i ddod o hyd i uned arall.

Wedi adolygu ei chynllun busnes a'i rhagolygon ariannol, mae Kris yn gweithio gyda Ceri i ddatblygu strategaeth twf a chynllun gweithredu, ac yn ei chynghori ar agweddau ar ehangu, megis troi at gyfanwerthu a chynnig gwasanaeth newydd.

Canlyniadau

Mae cymorth gan Busens Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i ni ers cyn i ni agor. Mae'r adnoddau ar gyfer perchnogion busnesau bach yn wych - gyda gweithdai am ddim a chymorth mentor, yn ogystal â chyngor ar bob mathau o bethau, o dreth i Adnoddau Dynol, roedd cymorth ar gael ar gyfer popeth, fwy neu lai. Mae Kris Hicks wedi bod yn seren wth ddarparu cymorth i ni ar ein camau nesaf, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag e eto wrth i ni ehangu yn 2020.

Cynlluniau a dyheadau

Agorodd Friends in Knead ym mis Tachwedd 2019, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw. Yna, rydym yn mynd i'r Barri yn 2020 gyda dau safle yn natblygiad Y Sied Nwyddau ar Lannau'r Barri. Friends in Knead fydd yn dwyn ein sylw yno yn ogystal â phrosiect newydd, ond bydd yn rhaid i chi aros i gael gwybod mwy am hwnnw!

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.