BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ecobalance Courses

Hyfforddwr cymwys o Gaerdydd yn lansio ei busnes ei hun, yn helpu pobl a sefydliadau i lywio'r llwybr i fyw'n gynaliadwy.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn rhedeg digwyddiadau, gweithdai a hyfforddiant, dechreuodd Mary Duckett Ecobalance Courses i ddarparu cyrsiau a hyfforddiant i unigolion a sefydliadau, gan eu helpu i ddarganfod ffordd i fyw'n foesegol a chynaliadwy. Cysylltodd Mary â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gael help i ddechrau busnes, a diolch i gefnogaeth ymgynghorol, llwyddodd i lansio'r busnes yn 2020.

  • Gweithdai ar ddechrau arni, rheoli cyllid a threth.
  • Cyngor ar ddechrau busnes, gan gynnwys yswiriant, marchnata ac ennill busnes. Ymrwymiad i Addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru i helpu gyda chyfleoedd tendro
  • Wedi dechrau'n llwyddiannus

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i lansio gan Mary Duckett, mae Ecobalance Courses yn cynnig ystod o gyrsiau, gyda'r nod o addysgu unigolion, timau a sefydliadau am y berthynas cydgysylltiedig rhwng economeg, yr amgylchedd, cyfiawnder cymdeithasol a lles.

Pwrpas Ecobalance Courses yw helpu pobl i ddarganfod a llywio eu llwybrau eu hunain ar gyfer newid cynaliadwy, cadarnhaol a moesegol trwy ymarferion myfyriol ac ymarferol.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Mae gen i 20 mlynedd o brofiad mewn datblygu cymunedol a gwasanaethau cymunedol, ac, felly, rydw i'n gyfarwydd iawn â rheoli prosiectau yn ogystal â threfnu gweithgareddau, digwyddiadau a hyfforddiant. Fodd bynnag, roedd y rhain bob amser yng nghyd-destun a diogelwch cael fy nghyflogi gan gyflogwr.

Ym mis Ionawr 2020, gadewais fy swydd, a sylweddolais fod angen i mi sefydlu fy musnes fy hun. Ar y pryd, roeddwn wedi colli fy hunanhyder ac nid oeddwn yn meddwl y gallwn ddychwelyd i gyflogaeth trwy'r prosesau recriwtio safonol. Felly, ar sail angenrheidiol ac mewn ymateb i alwad fewnol, dechreuais ar y daith o sefydlu Ecobalance Courses.

Pam mae cynaliadwyedd yn bwysig i chi a'ch busnes?

Yr alwad fewnol yw fy nghariad dwfn gydol oes at y ddaear, y byd naturiol a dynoliaeth ynghyd ag ymrwymiad i ansawdd bywyd a chydraddoldeb bywyd i bawb. Mae'r ddwy elfen hon fel helics dwbl sy'n rhedeg trwof, y rhan bwysicaf o fod ynof i.

Ym mis Mawrth, aeth y DU i mewn i gyfnod clo ac yn ddiddorol, roedd hynny i weld yn cynyddu'r pwyslais ar y ddynoliaeth gan adlewyrchu ar ein heffaith ar y ddaear a thuag at ein gilydd. Rhoddodd y feirws sylw poenus ar ein camymddwyn mewn perthynas ag anifeiliaid eraill, natur a'r anghydraddoldebau dynol ofnadwy yr ydym wedi'u creu a'u cynnal trwy ein systemau economaidd mwyaf blaenllaw. Yn ystod y cyfnodau clo rhyngwladol, roedd yna alwadau am ddim mwy 'busnes fel arfer'. Roedd hi'n teimlo bod Ecobalance Courses yn ffurfio ar adeg amserol - yn ogystal ag amser rhyfedd na welwyd ei debyg o'r blaen.

Mewn ymateb i argyfyngau hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol rydym yn mynd i’r afael â hwy ar y cyd, mae Ecobalance Courses ar gyfer datblygu personol a thîm, yn ogystal â newid systemau sefydliadol. Rwy'n credu bod gennym y dewis a'r gallu i drawsnewid ein systemau i gefnogi iechyd ecolegol a lles dynol.

Cymorth Busnes Cymru

Ar ôl bod i nifer o weithdai Busnes Cymru ar ddechrau busnes, treth a chyllid, gweithiodd Mary gyda chynghorydd busnes, Yusuf Behardien, a aeth â hi trwy'r broses o ddechrau busnes a'i chefnogi gydag amrywiaeth o agweddau, gan gynnwys cynllunio busnes, rheoli ariannol, marchnata, sefydlu busnes a chyfreithlondeb, gan arwain at lansio Ecobalance Courses yn llwyddiannus.

Canlyniadau

  • Gweithdai ar ddechrau arni, rheoli cyllid a threth
  • Cyngor ar ddechrau busnes, gan gynnwys yswiriant, marchnata ac ennill busnes
  • Ymrwymiad i Addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru i helpu gyda chyfleoedd tendro
  • Wedi dechrau'n llwyddiannus

Er mwyn cynorthwyo fy nhaith gyda'r arbenigedd a'r cyngor busnes yr oeddwn eu hangen, cysylltais â Busnes Cymru a mynd i rai o'r gweithdai amrywiol sydd ar gael i helpu gyda dechrau busnes. Rwy'n argymell y rhain yn fawr, roedd ansawdd y wybodaeth a ddarparwyd a hygyrchedd y tiwtoriaid yn wirioneddol wych. Roedd yn gymorth mawr i mi pan oeddwn yn mynd trwy gyfnod o newid llethol. Roeddwn yn ffodus i gael Yusuf fel fy nghynghorydd busnes ac elwa o gyfarfodydd, arweiniad a chefnogaeth un i un rheolaidd. Roedd ein trafodaethau yn cwmpasu popeth, o fy nghynllun busnes, cyfreithlondeb a chyllid, i farchnata a rhwydweithio. Gan fy mod yn ddi-waith, rwyf hefyd yn cael cefnogaeth gan y Ganolfan Waith a Lynne Berg o dan y cynllun Lwfans Menter Newydd (NEA), ac rwyf wrthi'n cwblhau cynllun busnes ar gyfer Ecobalance Courses i gofrestru fel unig fasnachwr ym mis Rhagfyr.

Rwy'n hynod ddiolchgar i Yusuf a Lynne am eu cyngor a'u cefnogaeth ar ddechrau busnes. Rwy'n teimlo'n eithaf emosiynol wrth feddwl cymaint y gwnaeth eu cefnogaeth fy helpu yn ystod cyfnod heriol yn bersonol, ac yn rhyngwladol. Diolch.

Os oes unrhyw un yn ystyried dechrau ei fusnes ei hun, byddwn yn argymell yn gryf eu bod yn cysylltu â Busnes Cymru, beth bynnag fo'u hamgylchiadau. Dylech yn bendant fynd i'r sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant gwych sydd ar gael, ac un cam ar y tro, byddwch yn creu ac yn dilyn eich llwybr eich hun i ddod yn hunangyflogedig! Pob lwc! 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Ar ôl cynllunio a hysbysebu yn ystod yr haf, ym mis Hydref 2020, cynhaliais fy sesiwn flasu ar-lein cyntaf. Roedd y rhain yn bedair sesiwn yn ymwneud â defnyddio'n ymwybodol a llywodraethu cynaliadwy, a roddodd gyfle gwych i ddysgu sut i ddefnyddio llwyfannau ar-lein amrywiol, gan gynnwys Zoom, Eventbrite, Survey Monkey a Canva, yn ogystal ag ymarfer y cynnwys yr oeddwn wedi'i ysgrifennu. Cyn y cyfnod clo, y bwriad oedd cyflwyno fy syniad busnes wyneb yn wyneb. Roedd y sesiynau'n llwyddiant, yn enwedig o ystyried yr wythnos y dewisais ei lansio, sef yr wythnos cyn yr ail gyfnod clo yng Nghymru. Cefais adborth rhagorol a gwerthfawr gan y cyfranogwyr, a chadarnhaodd pawb eu bod yn ystyried newidiadau personol ar ôl cymryd rhan yn y sesiwn.

Rwyf nawr wrthi'n datblygu’r gyfres nesaf o Gyrsiau Ecobalance (Ecobalance ar gyfer Busnes (BBaChau) ac Anhunanoldeb, Hunanofal a Chyfiawnder Cymdeithasol) - sesiynau blasu ar-lein am ddim a fydd yn rhedeg ym mis Ionawr a Chwefror 2021. Byddaf hefyd yn cynnig sesiynau talu o flaen llaw ar Ddefnyddio'n Ymwybodol a Llywodraethu Cynaliadwy.

Bydd Ecobalance ar gyfer Busnes (BBaChau) yn cynnwys cyfeiriad at Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru, edrych ar astudiaeth achos o’r gadwyn gyflenwi ac amlinellu fframwaith i helpu eich busnes baratoi Datganiad Polisi Amgylcheddol. Bydd yr olaf yn ddefnyddiol gan ei fod yn ofynnol wrth gyflwyno tendrau trwy GwerthwchiGymru. Sylwer: mae'r dysgu yma yn drosglwyddadwy ac yn ddefnyddiol ar gyfer busnesau mewn rhannau eraill o'r DU.

Diolch Busnes Cymru, rwy'n edrych ymlaen at ddyfodol Ecobalance Courses.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.