BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Larynx Entertainment

Larynx Entertainment

 

Mae Larynx Entertainment yn eiddo ar y cyd i'r cyfarwyddwyr Dave Acton a Pete Rogers. Mae'n llwyfan cyfryngau sydd yn arbenigo mewn hyrwyddo cyfryngau trefol Cymraeg  drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys arddangos gwaith artistiaid ar wefannau cymdeithasol, creu cynnwys gydag artistiaid megis fideos rapio rhydd, a chreu digwyddiadau byw er mwyn rhoi cyfle i'r artistiaid berfformio.

Dave a Pete sydd yn gyfrifol am yr holl gyfathrebu gyda'r artistiaid, cysylltu â lleoliadau a'r gweithredoedd busnes dyddiol gan gynnwys rheoli eu tudalennau ar y gwefannau cymdeithasol wrth weithio gyda thîm ehangach - Cyfarwyddwr Creadigol Daniel Edwards ac ymgynghorydd Tim Humphreys-Jones.

Beth ddaru nhw

Wedi ei sefydlu yn 2016, cychwynnodd Larynx fel cyfuniad o artistiaid lleol wedi'u lleoli yn Wrecsam. Dros gyfnod o 2 flynedd, bu iddynt sefydlu eu hunain yn y gymuned drwy berfformio mewn sioeau arddangos a gwyliau lleol yn ogystal â rhyddhau prosiectau lluosog a oedd yn cael eu hyrwyddo o dan faner Layrnx.

Wrth iddynt drawsnewid i lwyfan cyfryngol, penderfynodd Dave a Pete gofrestru gyda [gwasanaeth cymorth busnes blaenllaw Llywodraeth Cymru] Busnes Cymru a Hwb Menter Wrecsam. O fewn 4 mis, roeddynt wedi cofrestru'r cwmni ac wedi llwyddo i gael buddsoddiad gan Fanc Ddatblygu Cymru sydd wedi galluogi'r entrepreneuriaid i hyrwyddo'i busnes ymhellach a phrynu'r hanfodion i barhau i dyfu Larynx Entertainment yn gynaliadwy.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

"Rydym wedi credu erioed ei bod hi'n bwysig i ddysgu cerdded cyn y medrwn ni redeg ac i beidio â gwneud dewisiadau sydd ddim yn gredadwy. Rydym yn parhau i reoli'n busnes fel yr ydym wedi gwneud o'r cychwyn cyntaf." - Dave Acton, Cyd-gyfarwyddwr Larynx Entertainment.

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Roeddem yn ofnadwy o falch pan gofrestrwyd ein busnes."

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes

"Rydym wedi cael posteri digwyddiadau wedi eu cynhyrchu a'u cyfieithu i'r Gymraeg gan fusnesau lleol. "Mae hyn wedi rhoi'r gallu i ni gyfathrebu gyda chynulleidfa ehangach."

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Bu i Larynx Entertainment elwa o gefnogaeth  gan ymgynghorydd Busnes Cymru Anwen Pari Owen, a fu'n asesu hyfywdra'r syniad busnes, ac yn rhannu awgrymiadau ynghylch materion dechrau busnes megis strwythur busnes a sefydlu cyfreithiol, cynhyrchu incwm, model busnes a chynllunio busnes.

Yn dilyn y gefnogaeth, roedd Dave a Pete yn gallu cofrestru'r cwmni a'i lansio'n llwyddiannus o Hwb Menter Busnes Cymru yn Wrecsam.

Dywedodd Dave: "Rydym wedi gallu cael cyngor proffesiynol gan nifer o gwmnïau ac unigolion, gan gynnwys cymorth cynghorol gan [gwasanaeth cymorth busnes blaenllaw Llywodraeth Cymru] Busnes Cymru, Hwb Menter Busnes Cymru yn Wrecsam a benthyciad micro gan Fanc Datblygu Cymru. Mae hyn i gyd wedi bod yn hanfodol i dwf Larynx."

Cyngor Dda

Dyma awgrymiadau ardderchog Larynx Entertainment ar gyfer unrhyw un arall sy'n dymuno dechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:

  • peidiwch â gwneud penderfyniadau byrbwyll
  • peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth
  • ymchwiliwch i bopeth
  • os ydych yn teimlo dan bwysau, cymerwch seibiant. Eich busnes chi yw hwn, cewch ei dyfu ar eich cyflymder eich hun
  • cofrestrwch gyda Hwb Menter Wrecsam

 

 

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.