BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

T S Henderson & Co

T S Henderson & Co

 

Cwmni peirianneg fanwl, sy'n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi rhannau a chydrannau wedi eu peiriannu'n fanwl i ystod eang o sectorau, gan gynnwys modurol, awyrofod, morol, amddiffyn, electroneg, olew a nwy, cerddoriaeth a busnesau milfeddygol/amaethyddol yw TS Henderson & Co Ltd. Rydym yn arbenigo mewn peiriannu cydrannau modurol, ffasninau arbenigol, offer codi, iro a meddygol, saernïo is-osodiadau a chydrannau a ddefnyddir mewn offer rheoli symud peiriannau, plannu a chynaeafu proffil uchel, unigryw. Sefydlwyd y cwmni ym 1928, gan ddechrau fel garej atgyweirio, ond buan iawn yr adeiladom enw da am atgyweiriadau o safon uchel. Erbyn y 1940au, roeddem yn gweithgynhyrchu rhannau ar gyfer injans Rolls Royce Merlin a Griffon, a ddefnyddiwyd yn yr awyrennau eiconig, Spitfire a Hurricane. Ym 1998 symudom i'n safle yn y Gelli Gandryll ac ar hyn o bryd rydym yn cyflogi 35 o bobl.

Pa heriau a phroblemau posibl yr oeddech chi'n eu hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd Brexit?

Mae'r broses Brexit wedi peri sawl her i ni. Fel is-gontractwr, rydym yn gweithio'n rheolaidd i lawer o sectorau, gan gyflenwi dros 18 o gwmnïau, y mae nifer ohonynt yn cyflenwi i'r UE. Wrth i'w harchebion arafu, mae ein rhai ninnau wedi hefyd. Mae hyn yn bennaf oherwydd yr ansicrwydd yr ydym wedi bod yn ei wynebu. Ar yr un pryd, mae cwmnïau peirianneg fanwl wedi eu lleoli yn yr UE yn defnyddio peiriannau dwy echel a thair echel fel y dull safonol ac yn anelu at fanteisio ar yr ansicrwydd drwy ennill cyfran o'r farchnad gan weithgynhyrchwyr y DU.

Eich rhesymau dros ymgeisio am y Grant Cydnerthedd Brexit: pa brosiectau fydd yn elwa o'r grant hwn a sut ydych chi'n credu y bydd y gronfa yn eich helpu i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil Brexit?

Cydweithiodd TS Henderson & Co â Rheolwr Perthynas Busnes Cymru Steve Maggs i edrych ar gryfderau a gwendidau ein busnes, yn ogystal â'r cyfleoedd a'r bygythiadau allanol yr ydym yn eu hwynebu. O fewn ein ffatri, mae gennym 9 peiriant CNC dwy echel, 2 beiriant CNC tair echel ac 1 peiriant saith echel. Sylwom fod ein peiriant CNC saith echel yn gweithio ar ei gapasiti llawn. Rydym yn rhagweld y gallai 2il beiriant CNC saith echel olygu mwy o effeithlonrwydd o ran ein proses weithgynhyrchu ac y gallem ddod yn fwy cystadleuol wrth gynhyrchu cydrannau manwl ar gyfer cwsmeriaid hen a newydd yn wyneb cystadleuaeth gref. Byddai buddsoddi mewn 2il beiriant CNC saith echel yn rhoi mantais gystadleuol i ni dros gystadleuwyr yn Ewrop, y byddai'n amhosibl i lawer ohonynt wneud y naid o beiriannau dwy echel neu dair echel i beiriannau CNC saith echel. Gwnaeth ein Rheolwr Perthynas gefnogi ni gyda'r broses ymgeisio am gyllid y Gronfa Cydnerthedd Brexit ac roeddem yn llwyddiannus wrth sicrhau grant i gefnogi ein buddsoddiad. O ganlyniad i'r ansicrwydd, nid wyf yn rhy siŵr a fyddwn i wedi gwneud y buddsoddiad heb y grant.

Unrhyw adborth a all fod gennych ynglŷn â'ch ymgysylltiad â gwasanaeth Busnes Cymru a'r cymorth a gawsoch

Hoffwn ddweud bod y cyngor, o'r cychwyn cyntaf, wedi bod o'r safon uchaf. Rydym yn gwmni peirianneg bychan, nid ydym yn cyflogi cyfrifydd nac ymgynghorydd cyfreithiol llawn amser. Felly mae'r holl gymorth gan (gwasanaeth cymorth busnes blaenllaw Llywodraeth Cymru) Busnes Cymru wedi gwneud hyn yn bosibl. Mae ymatebion sydyn i bob un o'n cwestiynau wedi bod yn amhrisiadwy.

Hoffwn ddweud bod y cyngor, o'r cychwyn cyntaf, wedi bod o'r safon uchaf. Rydym yn gwmni peirianneg bychan, nid ydym yn cyflogi cyfrifydd nac ymgynghorydd cyfreithiol llawn amser. Felly mae'r holl gymorth gan (gwasanaeth cymorth busnes blaenllaw Llywodraeth Cymru) Busnes Cymru wedi gwneud hyn yn bosibl. Mae ymatebion sydyn i bob un o'n cwestiynau wedi bod yn amhrisiadwy.

Pa weithgareddau eraill ydych chi'n eu gwneud i baratoi eich busnes ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE?

Rydym yn cysylltu'n rheolaidd â'n cwsmeriaid a'n cyflenwyr. Rydym hyd yn oed yn ymweld â'n cwsmeriaid newydd ar sail un-i-un i ystyried p'un a yw'r busnes newydd yn fyrdymor o ganlyniad i Brexit neu'n hirdymor. Mae hyn yn bennaf oherwydd ein bod ni eisiau adeiladu cysylltiadau cryf a theyrngarwch cwsmeriaid, ac nid ydym eisiau cael ein defnyddio yn y tymor byr.

Cyfranogiad Busnes Cymru

Yn 2017, cynorthwyodd Busnes Cymru, ar y cyd ag Arbenigwr Arloesi Llywodraeth Cymru, TS Henderson & Co i ymgeisio'n llwyddiannus am Daleb Arloesi Llywodraeth Cymru gwerth £25,000 er mwyn buddsoddi mewn peiriant CNC arall i gefnogi eu gweithgareddau peirianneg fanwl. Ym mis Rhagfyr 2018, cysylltodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Rob Henderson, â Busnes Cymru i egluro'r effaith yr oedd Brexit yn ei chael ar ei fusnes, a'r goblygiadau a oedd yn cael eu hamlinellu gan ei gwsmeriaid. Eglurodd Rob fod hynny'n golygu, y byddai, o bosib, angen buddsoddi bron i £100,000 mewn peiriannau CNC ychwanegol i allu cynhyrchu mwy o gydrannau allweddol er mwyn bodloni'r galw gan ei gwsmeriaid yn y DU. Roeddent yn anelu at bentyrru cydrannau, ond roedd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn TS Henderson & Co yn ei chael hi'n anodd cyfiawnhau risg/budd buddsoddiad o'r fath.

Cynorthwyodd Steve Maggs, Rheolwr Perthynas, Busnes Cymru, TS Henderson & Co i ymgeisio'n llwyddiannus am gymorth drwy Gronfa Cydnerthedd Brexit, a ddyfarnodd grant gwerth £40,000 iddo tuag gostau prynu peiriant CNC 7 echel. Profwyd y buddion ar unwaith gyda TS Henderson & Co yn ennill archebion newydd gwerth £132,000 ar gyfer gweddill 2019, ac mae'r archebion hyn yn debygol o barhau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, am y 3 blynedd nesaf. Mae TS Henderson & Co hefyd yn derbyn cymorth gan Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, Busnes Cymru i edrych ar eu trefniadau gwyrdd a strategaethau rheoli gwastraff, ac mae ganddynt berthynas barhaus ag Ymgynghorydd Adnoddau Dynol, Busnes Cymru i'w cefnogi wrth iddynt dyfu eu gweithlu.

 

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.