Entrepreneur o Bontypridd yn mynd i'r afael â gwastraff drwy gynnig eitemau amgen cynaliadwy ecogyfeillgar i gynnyrch tŷ untro.
Wedi ei sefydlu gan Debbie Rees, mae Tabitha Eve yn fusnes yn ne Cymru sy'n mynd i'r afael â gwastraff yn y cartref. Mae'r cwmni'n cynnig eitemau cynaliadwy ac ecogyfeillgar amgen ar gyfer nwyddau tŷ cyffredin. Helpodd gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru drwy ddod o hyd i safle mwy i roi lle i'r busnes ehangu , cael gafael ar arian ar gyfer offer, cyngor ynghylch allforio a mabwysiadu polisi cynaliadwyedd.
- mabwysiadu polisi cynaliadwyedd
- creu 9 swydd
- sicrhau £30,000 mewn cytundebau masnach ryngwladol yn ystod y flwyddyn gyntaf o fasnachu
Cyflwyniad i'r busnes
Penderfynodd y perchennog, Debbie Rees ddechrau ei rhyfel ei hun yn erbyn gwastraff a llygredd plastig wrth deithio a deifio ym moroedd Borneo. Dechreuodd ei busnes, Tabitha Eve, i greu cynnyrch bob dydd cynaliadwy i gymryd lle ei nwyddau cegin untro.
Wedi ei leoli ym Mhontypridd, cafodd Tabitha Eve ei lansio ym mis Mawrth 2018 ac mae'n cynnig opsiynau amgen cynaliadwy i gynnyrch tŷ, wedi eu creu o ffabrigau moesegol.
Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?
Dechreuais Tabitha Eve tra roeddwn ar gyfnod mamolaeth o swydd brysur yn y diwydiant cyllid. Rwyf yn hoff o ddeifio sgwba, ac mae'r amgylchedd wedi bod yn uchel ar fy agenda o faterion pwysig erioed, felly penderfynais ddechrau gwneud pethau o gartref a fyddai'n cael gwared ar wastraff o fewn y tŷ. Dechreuodd fy nheulu a'm ffrindiau ofyn am yr un eitemau a dyna sut y dechreuodd Tabitha Eve.
Pa heriau a wyneboch?
Ar wahân i ofal plant, oherwydd nad oeddwn i wedi sefydlu fy musnes fy hun o'r blaen, roedd dod o hyd i gyfrifydd cyfeillgar a chymwynasgar yn help mawr. Rwy'n meddwl mai'r her fwyaf hyd yn hyn yw dod o hyd i ffabrigau a sicrhau cadwyn gyflenwi foesegol a thryloyw, lle bynnag y bo modd. Roedd paratoi ar gyfer archebion mwy mor sydyn hefyd yn dipyn o her! Mae mynd o wnïo yn fy ystafell wydr gartref i gyflogi tîm o wnïwyr a defnyddio peiriannau diwydiannol wedi bod yn wers a hanner!
Cymorth Busnes Cymru
Cafodd Tabitha Eve gymorth Rheoli Cysylltiadau gan Busnes Cymru Jayesh Parmar i ddod o hyd i safle newydd er mwyn diwallu twf cyflym y busnes. Mae Debbie a Jonathan hefyd wedi elwa o gyngor allforio ac wedi llwyddo i sicrhau £30,000 mewn cytundebau masnach ryngwladol yn ystod y flwyddyn gyntaf o fasnachu.
Yn ogystal â hynny, maent wedi gallu mabwysiadu polisi cynaliadwyedd ar gyfer y busnes, sydd wedi eu helpu i unioni eu nodau cynaliadwy ac amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, wrth leihau gwastraff pecynnu.
Canlyniadau
- mabwysiadu polisi cynaliadwyedd
- creu 9 swydd
- sicrhau £30,000 mewn cytundebau masnach ryngwladol yn ystod y flwyddyn gyntaf o fasnachu
Roedd ein hymgynghorydd cynaliadwy, Iain Cox, yn help mawr wrth fy rhoi ar ben ffordd o safbwynt nodau, dulliau ac achrediadau cynaliadwyedd. Gwnaeth inni ganolbwyntio o ddifrif ar ein neges a nodau cynaliadwyedd. Rwyf hefyd wedi gwneud cais am gynlluniau fel Twf Swyddi Cymru.
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Mae gan Tabitha Eve stocwyr ledled y byd, felly byddwn i wrth fy modd yn ehangu ar y neges o leihau gwastraff a phrynu cynnyrch sydd wedi ei wneud yn foesegol. Un diwrnod, hoffaf agor siop bwtîc brics a morter ar gyfer ein holl gynnyrch ac ehangu ein hystod o gynnyrch. Rydym eisiau bod yn siop un stop ar gyfer unrhyw un sydd eisiau prynu cynnyrch ecogyfeillgar sydd wedi eu dylunio i helpu pobl i fyw bywydau gyda llai o wastraff.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.