Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

03000 6 03000

Tafarn Cross Foxes

Tafarn Cross Foxes

Mae perchennog tafarn yng Ngogledd Cymru wedi ei thrawsnewid yn siop gymunedol i helpu'r trigolion lleol yn ystod y cyfnod clo.

Ar ôl wynebu nifer o heriau yn sgil pandemig Covid-19, penderfynodd Janet a Tim Costidell, gŵr a gwraig, droi eu tafarn bentrefol draddodiadol yn siop gymunedol a gwasanaeth cludo i helpu'r rhai oedd fwyaf mewn angen yn ystod y cyfnod clo. Mae'r teulu entrepreneuraidd wedi elwa o'r cyngor parhaus a chefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, gan gychwyn yn 2013 wrth gymryd rheolaeth dros y dafarn, ac yna ei datblygu'n dafarn bentrefol lwyddiannus a hwb cymunedol.

Cyflwyniad i'r busnes

Mae Tafarn Cross Foxes yn dafarn hanesyddol, sy'n dyddio'n ôl i 1780, ac wedi'i lleoli yn Nannerch ger Yr Wyddgrug. Yn wreiddiol, roedd gan y dafarn ei bragdy ei hun, a thros y blynyddoedd mae Cross Foxes wedi gwasanaethu fel tafarn, yn ogystal â chigydd a swyddfa bost.

Bu i Janet a Tim Costidell gymryd yr awenau yn y dafarn yn Ionawr 2013, ac ers hynny maen nhw wedi creu tafarn draddodiadol, bentrefol a chyfeillgar, yn ogystal â hwb croesawgar i'r gymuned leol.
 

Pam wnaethoch chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun?

I ddechrau, penderfynasom gychwyn ein busnes ein hun gan fod y dafarn yn ein pentref yn wynebu heriau. Ugain mlynedd yn flaenorol, bu i ni symud o Lundain i'r Gogledd Orllewin oherwydd swydd Tim. Roeddem yn byw mewn llety rent yn Rhuddlan, ac fe gytunon ni i gwrdd â ffrindiau, oedd wedi symud hefyd, mewn tafarn fach bentrefol. Fe eisteddom ger y ffenest a gweld bod y tŷ gyferbyn â'r dafarn ar werth; bu i ni weld y tŷ a'i brynu, am ein bod ni mewn cariad â'r dafarn â'r ardal. Derbyniais swydd yn y dafarn yn fuan wedi hynny, ac rwyf wedi aros ers hynny. 26 mlynedd a dau blentyn yn ddiweddarach, rydym dal yno! Roedd y dafarn yn wynebu heriau, ac nid oeddem yn barod i adael iddi gau, felly cynigiais rentu rhan o'r adeilad gan y landlord, ac rydym yno hyd heddiw!
 

Pa heriau a chyfleoedd y wyneboch chi yn sgil pandemig Covid-19?

Mae'r heriau yn ystod Covid-19 wedi bod yn enfawr. Ar ôl derbyn y cyhoeddiad bod yn rhaid i dafarndai gau, bu i'r gymuned ddangos cefnogaeth enfawr, a oedd yn arbennig. Treuliasom rai dyddiau yn argraffu pamffledi a chynnig help i henoed y gymuned, a phawb a oedd yn gwarchod. Fe gynigiasom i gasglu presgripsiynau, siopa o'n cyfanwerthwyr i bobl, a chludo prydau poeth. 

Yna, penderfynasom agor siop dros dro yn ein hystafell ddigwyddiadau. Mae gennym oergell arddangos poteli ar gyfer digwyddiadau awyr agored, a bu i ni ei defnyddio i stocio'r holl bethau hanfodol. Bu i ni weithredu system giwio pellter cymdeithasol, a oedd yn llwyddiant. Gwnaed defnydd da o'r gwasanaeth cludo bwyd/i fynd - roeddem yn brysur iawn! Cychwynasom bobi sgoniau a theisennau ar foreau Iau, ac roedd y ciw amdanynt yn ymestyn i lawr y ffordd! 

Pan roeddem yn cael ail agor y tu allan, bu i ni greu system grid gyda phaent marcio i greu llinellau ar ein maes parcio a gardd gwrw, a gosod y byrddau oddi wrth ei gilydd i'r pellter diogel, wrth barhau i gynnig gwasanaeth bwyd i fynd. Yn anffodus, bu i ni ddysgu y byddai gweithredu gwasanaeth bwrdd yn gostus tu hwnt, felly cysylltais â Swyddog Iechyd Amgylcheddol, a chytunwyd i adael i’n cwsmeriaid ddod at y bar o bellter, a oedd yn rhyddhad enfawr. Rydym hefyd wedi codi pabell fawr, a gafodd ei rhoi gan un o'n cwsmeriaid, fydd yn cynyddu'r nifer o lefydd eistedd.
 

Cymorth Busnes Cymru

Bu i Busnes Cymru ein helpu’n sylweddol ar y dechrau. Nid oedd gennyf syniad sut i gadw cyfrifon. Ymhellach, nid oedd gennyf syniad bod gweithio'n hunangyflogedig a sefydlu busnes mor syml - heb Busnes Cymru byddai wedi bod yn broses llawer mwy brawychus. Rydym wedi derbyn cymorth parhaus gan ein hymgynghorwyr, yn enwedig Carol Williams, sydd wedi bod yn werthfawr iawn.
 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn canolbwyntio'n bennaf ar bolisïau Covid-19 Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i weithredu fel yr ydym ar hyn o bryd, ond rydym mewn sefyllfa ffodus o fod yn rhentu eiddo. Rwy'n cydymdeimlo'n arw â'r rhai mewn tafarn glwm a'r rhai sy'n berchennog ar eu tafarndai gyda morgeisi - tybiaf fod hynny'n frawychus iawn.

Ar y cyfan, mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn, felly nid wyf yn credu y gall unrhyw un yn y diwydiant lletygarwch, yn enwedig tafarndai gwledig bach, feddwl am gynllun hir dymor yn y sefyllfa bresennol.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
Conversion pixel