BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd, Document

Troseddau Busnes: Sgamiau Busnes

Mae technoleg well yn help a bod yn rhwystr i sgamiau. Mae’n rhoi mwy o gyfleoedd i dwyllwyr a sgamwyr fanteiso a lladrata,
ond mae hefyd wedi gwneud y frwydr yn erbyn twyll ychydig yn haws.

Cyhoeddwyd gyntaf: 7 Mai 2024
Diweddarwyd diwethaf: 7 Mai 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 68.75 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Cyflwyniad

Mae twyll a sgamiau wedi bodoli er pan ymddangosodd pobl ar y blaned. Mae hanes twyll yn dyddio’n ôl i 300 BC pan brynodd masnachwr o wlad Groeg bolisi yswiriant mawr ar gyfer llwyth o ˆyd mewn cwch oedd ar fin cyrraedd. Cynllwyniodd i suddo cwch gwag, cadw’r arian yswiriant ac yna gwerthu’r ˆyd. Ond, fel llawer o sgamiau blêr, methiant oedd y cyfan.

Y dyddiau hyn, mae technoleg well yn help a bod yn rhwystr i sgamiau. Mae’n rhoi mwy o gyfleoedd i dwyllwyr a sgamwyr fanteiso a lladrata, ond mae hefyd wedi gwneud y frwydr yn erbyn twyll ychydig yn haws.

Mae’r diffiniad o ‘dwyll’ yn eang, ond, yn ei hanfod, gellir ei ddiffinio fel defnyddio twyll neu ddichell i ennill mantais anonest dros fusnes, unigolyn neu sefydliad arall.

Ond, o’r holl fathau o dwyll sydd ar gael mae un ffaith syml yn gyffredin. Mae unigolion, sefydliadau a’r economi ehangach yn talu’n hynod o ddrud am dwyll. Yn ôl Dangosydd Twyll Blynyddol yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol am 2013 , roedd twyll wedi costio £52 biliwn i economi’r DU yn 2013.

I fusnesau, mae effaith twyll yn gallu bod yn ddinistriol. Mae twyll yn gallu bod yn hynod o niweidiol i fusnesau bach a chanolig ac mae llawer yn ei chael yn anodd iawn i ddod dros y difrod ariannol i’r busnes. Ac hyd yn oed os yw busnes yn goroesi’r gost ariannol, efallai bod ei enw da wedi dioddef a’i fod yn cael weld fel sefydliad nad yw’n ddiogel mewn byd busnes. Gallai busnesau, rhai bach a rhai mawr, orfod gwario llawer mwy ar fesurau diogeledd.

Yng Nghymru, mae llawer iawn o arian yn cael ei wario yn y frwydr yn erbyn effeithiau twyll a sgamiau ac ar godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau a defnyddwyr. Yn 2010, cyfarfu Fforwm Twyll Cymru am y tro cyntaf gan roi cyfle i Fusnesau Bach a Chanolig Cymru glywed, am y tro cyntaf, rai o arbenigwyr pennaf y DU ar atal a chanfod twyll.

Erbyn hyn mae’r fforwm yn cyfarfod pob blwyddyn ac mae rhagor o waith ar y gweill i godi ymwybyddiaeth o effaith twyll yng Nghymru. Does dim ots gan dwyllwyr a sgamwyr ar bwy maen nhw’n ymosod. A yw’r dioddefwr yn gyfoethog neu’n dlawd, yn fusnes bach neu’n fusnes mawr, mae pawb yn gallu cael eu dal yn y rhwyd.

Mae’r rhifyn cyntaf hwn Sgamiau Busnes, yn amlinellu’r prif fathau o droseddau sy’n gallu effeithio ar ddefnyddwyr a busnesau. Mae’n ganllaw y gellir troi ato am wybodaeth a chyngor ar beth i chwilio amdano ac, yn bwysig iawn, ble i droi am gyngor ac i adrodd ar dwyll.

e-Drosedd

Mae’n gallu bod yn anodd canfod a chosbi e-Drosedd oherwydd ei gymhlethdod technegol a’i fod yn gallu newid gyda thechnoleg a datblygiadau newydd mewn gwarchod meddalwedd. Mae bygythiadau newydd yn ymddangos yn dychrynllyd o reolaidd, gyda’r posibilrwydd o ganlyniadau drychinebus.

Felly, beth yw e-Drosedd?

Mae e-Drosedd yn cyfeirio at weithgaredd troseddol pan fo cyfrifiadur yn ffynhonnell, teclyn, targed neu lleoliad trosedd. Er yr holl sôn am ‘gyfrifiaduron’ neu ‘weithgaredd ar lein’, mae e-drosedd yn cynnwys llu o droseddau ‘traddodiadol’ megis twyll a lladrad.

Gallai dim ond dod i ddeall y bygythiadau a’r peryglon sy’n wynebu busnesau ei gwneud yn haws i ymateb iddyn nhw.

Dyma rai o’r bygythiadau cyffredin y dylech gadw llygad amdanyn nhw ac awgrymiadau ynghylch sut i weithredu pe byddai angen:

Maleiswedd a Meddalwedd Wystlo

Maleiswedd; sef ‘meddalwedd maleisus’, rhaglenni cyfrifiadurol wedi’u dylunio i dreiddio i gyfrifiaduron a’u niweidio heb ganiatâd y defnyddiwr. Mae maleiswedd yn cynnwys y cyfan o’r gwahanol fathau o fygythiadau i ddiogelwch cyfriaduron megis firysau, sbiwedd a trojans. Defnyddir maleiswedd mewn ymosodiadau maleisus megis lladrata adnabyddiaeth, gwe-rwydo a pheirianneg cymdeithasol – bygythiadau i ladrata arian gan ddefnyddwyr cyfrifiaduron, busnesau a banciau ar y slei.

Meddalwedd Wystlo yw’r lefel nesaf o faleiswedd, sy’n cloi’r systemau cyfrifiadurol y mae’n ei heintio. Mae’n anfon neges at y defnyddiwr yn mynnu pridwerth cyn bod y rhwystr yn cael ei godi. Unwaith y mae wedi’i osod, mae’r meddalwedd wystlo wedi cael ei baratoi i gychwyn yn awtomatig pan fyddwch yn logio ar y cyfrifiadur.

Roedd un digwyddiad o haint meddalwedd wystlo yn 2012 yn dangos logo Gwasanaeth yr Heddlu’r Metropolitan ar sgrîn cyfrifiaduron. Roedd y sgrîn yn honni fod y cyfrifiadur yn cael ei fonitro gan yr heddlu oherwydd bod troseddau ar lein yn cael eu cyflawni arno ac yn hawlio taliad o £100.

Gwe-rwydo

Negeseuon e-bost ffug sy’n honni eu bod oddi wrth gwmni neu sefydliad cyfrifol sy’n cael eu defnyddio mewn gwe-rwydo i’ch camarwain i ddarparu gwybodaeth breifat. Mae’r e-byst hyn yn edrych fel rhai oddi wrth sefydliadau parchus; yn aml gyda lliwiau brand a logo’r cwmni i’w gweld a neges e-bost sy’n ymddangos yn gyfreithlon, ac mae’n hawdd iawn eu camgymryd am e-byst swyddogol.

Sut mae adnabod e-byst gwe-rwydo?

  • Cyfeiriadau ‘At’ – Cofiwch fod e-byst at lawer iawn o dderbynwyr yn aml yn rhai ffug.
  • Teitlau’r cyffrous neu angen sylw brys i’ch denu. Chwiliwch am gamgymeriadau sillafu neu ‘typos’ yn nheitl y pwnc neu yng nghorff yr e-bost.
  • Nid yw logo cwmni’n golygu fod yr ebost yn gyfreithlon – peidiwch ag ymddiried ynddyn nhw.
  • Bygythiadau – yn aml bydd e-byst gwe-rwydo’n gofyn am wybodaeth ar unwaith gan fygwth atal eich cyfrif os na fyddwch yn ei anfon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn ffordd o rannu gwybodaeth, barn, fideos a lluniau personol. Mae’n bwysig cofio, fodd bynnag, fod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei osod ar safle’n gallu bod yn gyhoeddus ac y gallai llawer iawn o bobl ei weld. Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd osodiadau preifatrwydd i ddefnyddwyr ddewis pa mor gyhoeddus neu breifat y bydd eu gwybodaeth. Mae’n bwysig fod preifatrwydd yn cael ei reoli rhag i bobl ddrwg weld beth fyddwch chi’n ei anfon.

Peidiwch ag anfon gwybodaeth bersonol y gallai e-droseddwyr ei defnyddio. Peidiwch â dangos cyfeiriad neu rifau ffȏn eich cartref. Mae’n syniad da greu cyfeiriad e-bost ar wahân ar gyfer ei ddefnyddio ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn unig i warchod eich adnabyddiaeth a rhag i gyfeiriadau e-bost eich gwaith gael ei ddefnyddio i gael gafael ar ddata’r cwmni.

Er bod mwy o sefydliadau’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ychydig iawn sydd â pholisïau â chanllawiau i staff ynghylch defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gywir ac yn briodol.

Heb ganllawiau o’r fath, mae perygl y bydd staff y sefydliadau’n gwneud camgymeriadau wrth geisio cydbwyso’r personol a’r proffesiynol, a allai amharu ar enw da, ac o bosibl arwain at achos cyfreithiol i’r sefydliad os yw’n cael ei ddefnyddio’n amhriodol.

Cadwch lygad ar beth mae staff yn ei wneud ar rwydweithiau cymdeithasol. Rhaid i staff ofalu fod yr hyn y maen nhw’n ei osod ar lein, gan eu bod nhw’n cynrychioli’r sefydliad, yn gyson a’u swyddogaeth ac nad yw’n gyfaddawdu enw da eu brand.

Fraud

Twyll Parti Cyntaf

Yn ôl Transactis, cwmni rheoli data, amcangyfrifir fod Twyll Parti Cyntaf yn costio tua £2.6 biliwn y flwyddyn i’r sector preifat.

Yn ei hanfod, cais am nwyddau neu wasanaeth gan droseddwr nad oes ganddo / ganddi unrhyw fodd neu fwriad o dalu yw Twyll Parti Cyntaf. Fodd bynnag, yn ddiweddar, mae’r diffiniad wedi ehangu i gynnwys mathau eraill o dwyll.

Beth i’w wneud os byddwch yn dioddef o dwyll parti cyntaf?

Ei riportio

Dylid adrodd ynghylch troseddau twyllo yn erbyn busnesau yng Nghymru i Action Fraud, un ai ar lein;

https://www.actionfraud.police.uk/report neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Dylech gysylltu ag Action Fraud os ydych wedi dioddef o dwyll, y ganolfan adrodd ar dwyll ar gyfer y DU gyfan.

Adnabyddiaeth ffug

Lladrad adnabyddiaeth tra gwahanol yw adnabyddiaeth ffug, yn hytrach na lladrata adnabyddiaeth person o gig a gwaed, mae twyllwr yn creu adnabyddiaeth ffug drwy gymryd gwahanol ddarnau o wybodaeth gwahanol bobl. Gallai gychwyn gyda chyfeiriad un person, ac yna ddyddiad geni rhywun arall.

iawn, nid yw pobl yn sylweddoli fod eu hadnabyddiaeth wedi’i ladrata, ond bydd yr wybodaeth wedyn yn cael ei ddefnyddio i wneud cais am gredyd yn dywyllodrus.

Twyll Clirio’r Cyfan

Mae twyll clirio’r cyfan yn cychwyn pan fydd twyllwr yn dechrau adeiladu hanes credyd da ac yna’n ymestyn eu terfyn credyd neu’n creu cyfrif newydd cyn atal taliadau’n gyfan gwbl.

Gan fod y twyllwr yn defnyddio hanes credyd da i ymgeisio am fwy o gredyd, does gan y banc ddim rheswm dros wrthod y cais.

Gynted ag y bydd y cais am fwy o gredyd yn cael ei ganiatáu, bydd y twyllwr yn ‘clirio’r cyfan’ ac yn cymryd yr holl arian allan o’r cyfrif ac yna’n ei adael yn gyfan gwbl.

Anfonebau ffug

Mewn twyll anfonebau ffug, bydd twyllwyr yn gyrru anfonebau sy’n ymddangos yn broffesiynol a dilys am gynnyrch neu nwyddau na chafodd eu harchebu na’u derbyn. Maen nhw’n gwneud hynny gan ddisgwyl na fydd canran o gwmniau’n sylweddoli eu bod yn rhai ffug ac yn eu talu heb feddwl ddwywaith.

Yn anffodus i lawer o gwmnïau, mae ‘anfonebau ffug’ yn dod yn llawer mwy cyffredin gyda llawer yn ffonio ar hap cyn eu gyrru. Gall pwysau mawr oddi wrth bobl yn gwerthu dros y ffôn dwyllo staff i brynu gwahanol nwyddau am brisiau mawr. Yn aml, mae’r gwerthwyr dros y ffôn yn honni fod y busnes eisoes wedi archebu’r cynnyrch, un ai’n ddiweddar neu ymhellach yn ôl, ac yn mynnu tâl amdano.

Gellir osgoi’r math yma o dwyll drwy fod yn ofalus a chael trefniadau cadarn i drin cyfrifon, gan gynnwys gofalu fod staff cyfrifon yn gwybod am bob anfoneb y disgwylir ei derbyn. Bydd sicrhau fod yna rif pryniant unigryw ar bob anfoneb a gosod telerau caeth ynghylch talu yn help i gadw’r cwmni allan o grafangau’r ‘biliwr ffug’.

Beth i’w wneud os byddai i’n dioddef twyll ‘anfoneb ffug’?

Ei riportio

Dylid adrodd ynghylch troseddau twyllo yn erbyn busnesau yng Nghymru i Action Fraud, un ai ar lein;

https://www.actionfraud.police.uk/report neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Dylech gysylltu ag Action Fraud os ydych wedi dioddef o dwyll, y ganolfan adrodd ar dwyll ar gyfer y DU gyfan.

Twyll yswiriant

Tywll yswriaint yw gweithred anghyfreithlon ar ran un a’i brynwr neu werthwr contract yswiriant.

  • Mae twyll yswiriant gan y gwerthwr yn cynnwys gwerthu polisiau gan gwmniau nad ydyn nhw’n bodoli, peidio ag anfon premiynau i’r cwmniau a ‘chorddi’ polisïau i gael mwy o gomisiwn.
  • Mae twyll yswiriant gan y prynwr yn golygu ceisio cael rhyw fantais nad yw person â hawl iddo neu brynwr yn cyflwyno hawliad yswiriant ffug i geisio cael y cwmni yswiriant i dalu rhagor o arian. Y math mwyaf cyffredin o dwyll yswiriant yw twyll ynghylch yswiriant cerbydau.Yn ôl y Biwro Twyll Yswiriant, mae hawliadau ffug heb eu canfod am yswiriant ceir yn costio £2.1 biliwn y flwyddyn, sy’n rhoi £50 y flwyddyn, bob blwyddyn, ar gyfartaledd, ar ben costau yswiriant ceir unigol
  • “Arian am ddamwain”: Mae llawer o sgamwyr yn achosi eu damweiniau eu hunain, drwy, yn fwriadol, frecio mor galed nes bod y car y tu ôl yn eu taro. Gan fod y rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant yn dal allan mai gyrwyr y tu ôl sydd ar fai, bydd yswiriant y gyrrwr hwnnw’n talu i drwsio’r ddau gar. Mae hyn yn hynod beryglus ac mae’r twyllwyr, er mwyn cael rhagor o arian, nid yn unig yn twyllo gyrwyr diniwed ond hefyd yn peryglu bywydau.
  • Damweiniau rhith: Weithiau, dyw’r twyllwyr ddim hyd yn oed wedi cael damwain, dim ond hawlio am ddamwain nad oedd wedi digwydd. Mae damweiniau rhith yn arwain at hawlio’n gwbl gelwyddog am ddamweiniau ffug ac mewn rhai achosion am geir nad oedd erioed yn bodoli

Os mai chi yw’r darparydd yswiriant

Gall person gyflawni twyll yswiriant drwy gyflwyno gwybodaeth ffug i gwmni er mwyn cael yswiriant ar delerau gwell, gan gynnwys tan yswirio eu cerbyd yn fwriadol er mwyn talu llai o bremiwm.

Twyll Post

Wrth i fwy o gwmnïau newid i ohebu’n electronig, daw ebost i gymryd lle llythyrau ac mae anfonebau’n cael eu gyrru drwy ebost.

Ond mae busnesau’n dal i ddibynnu ar y post i anfon dogfennau a pharseli pwysig a rhai o’r mathau o dwyll mwyaf cyffredin sy’n bla ar y gwasanaeth post yw twyll Cyfeiriadur Busnes. Yn y math hwn o dwyll, bydd yr busnes yn derbyn ffurflen archebu drwy’r post ond weithiau drwy ebost a ffacs sy’n cynnig rhestru rhad ac am ddim mewn cyfeiriadur busnes.

Bydd yr ohebiaeth yn gofyn i’r derbynydd ddychwelyd ffurflen archebu, hyd yn oed i wrthod gofod hysbysebu. Yn ôl y print mân ar y ffurflen, bydd y busnes, drwy anfon y ffurflen yn ôl, yn ymrwymo i achebu gwerth cannoedd o bunnau’r flwyddyn. Bydd gwrthod talu’n arwain at fygythiad o achos cyfreithiol.

Twyll gyffredin arall drwy’r post yw gwthio cerdyn drwy’r drws, gan wasanaeth danfon parseli fe honnir. Mae’r cerdyn yn un nodweddiadol, yn dweud nad oedd y parsel wedi’i ddanfon ac yn gofyn i’r derbynnydd ffonio rhif ffôn premiwm. Gynted ag y bydd y ffôn yn cael ei hateb, bydd y sawl sy’n ffonio’n talu swm mawr o arian am ddim ond ychydig funudau.

Beth i’w wneud os byddwch yn dioddef twyll post?

Ei riportio

Dylid adrodd ynghylch troseddau twyllo yn erbyn busnesau yng Nghymru i Action Fraud, un ai ar lein;

http://www.actionfraud.police.uk/report neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Dylech gysylltu ag Action Fraud os ydych wedi dioddef o dwyll, y ganolfan adrodd ar dwyll ar gyfer y DU gyfan.

Twyll Cyfrifo Ffug

Twyll cyfrifo ffug yw pan fydd cwmnïau’n datgan fod ganddyn nhw fwy o asedau neu lai o ddyledion nag sydd ganddyn nhw er mwyn rhoi’r argraff fod eu busnes yn gadarnach yn ariannol nag y mae mewn gwirionedd. Ffugio cofnodion neu newid ffigyrau yw cyfrifo ffug mewn gwirionedd ac mae’r rhesymau dros y twyll yn gallu amrywio.

Yn aml, mae busnes yn dibynnu ar ei berfformiad i gael digon o arian ar gyfer ei ddyfodol. Os bydd y banciau’n gweld nad yw’r busnes yn hyfyw, ni fydd rhagor o arian ar gael. Drwy ffugio’r cyfrifon bydd y busnes yn ymddangos yn fwy hyfyw’n ariannol, gan ei wneud yn fwy deniadol i’r banciau. Mae’n gallu bod ynghylch y ddelwedd allanol hefyd. Drwy ffugio’r cyfrifon, gall busnesau gamarwain cwsmeriaid i feddwl eu bod yn fwy llwyddiannus nag y maen nhw mewn gwirionedd.

Mae’n bosibl cyflawni twyll cyfrifo ffug mewn ffyrdd eraill hefyd. Gallai staff gyflwyno hawliadau treuliau am fwy nag y dylen nhw neu ffugio cyfrifon i guddio’r ffaith eu bod wedi lladrata arian.

Twyll Siec / Gordaliad Siec

Er nad yw pobl yn defnyddio cymaint o sieciau wrth dalu am nwyddau erbyn hyn, mae busnesau’n dal i ddibynnu mwy arnyn nhw, ond mae llawer yn gallu fod yn rhai ffug. Mae rhai twyllwyr hyd yn oed yn defnyddio inc sy’n diflannu i ysgrifennu sieciau sy’n ei gwneud yn anodd i fusnesau eu talu i’r banc.

Mae Twyll Gordaliad Siec yn estyniad o dwyll siec. Mae’r twyllwr yn ysgrifennu siec yn gyfnewid am nwyddau neu wasanaethau sydd am fwy na’r swm sy’n ddyledus mewn gwirionedd. Fel arfer, bydd y swm ychwanegol yn cael ei ddangos fel arian ar gyfer rhywbeth fel costau danfon. Mae twyllwyr yn gobeithio y bydd y busnes yn ad-dalu’r swm dros ben cyn sylweddoli fod y siec yn ffug.

Golyga hynny fod effeithiau’r twyll yn ddeublyg; mae’r busnes yn colli arian am wasanaethau a hefyd yn talu gormod o arian i’r twyllwr.

Beth i’w wneud os byddai i’n dioddef twyll cyfrifo ffug?

Ei riportio

Dylid adrodd ar dwyll yn erbyn busnesau Cymru i Action Fraud, naill ai ar lein;

http://www.actionfraud.police.uk/report neu ffonio 0300 123 2040.

Dylech gysylltu ag Action Fraud os ydych wedi dioddef o dwyll, y ganolfan adrodd ar dwyll ar gyfer y DU gyfan.

Twyll Ffôn Symudol

Yn ȏl Ofcom, mae yna 82.7 miliwn o danysgrifiadau ffȏn symudol ar hyn o bryd yn y DU gyda 49% o oedolion yn defnyddio’u ffonau symudol i fynd ar y rhyngrwyd. Mae’r ffaith fod ffonau symudol mor hollbresennol yn golygu eu bod yn dargedau hawdd i dwyllwyr.

Mae galwadau ffôn gan gwmnïau’n cynnig gwasanaethau am hawliadau Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) a chyfreithwyr anafiadau personol yn gynyddol fwy cyffredin ac er bod lawer o bobl yn eu cael yn flinderus, mae’r math yma o negeseuon hefyd yn gallu bod yn sgamiau. Bydd rhywun yn cael galwad ffôn i ffonio rhif ffȏn graddfa premiwm ac, heb sylweddoli, yn cael bil enfawr am hynny.

Mae’n hawdd gwrthod y negeseuon hyn. Gall derbynwyr anwybyddu alwad ffôn neu neges destun neu eu dileu o’u ffôn, ond nid yw sgamiau ffôn symudol mor hawdd eu hanwybyddu.

Sgam galwad goll yw neges gan gwmni sy’n honni bod yn gwmni Yswiriant Gwarchod Taliadau. Bydd y troseddwr yn cofrestru galwad goll ar ffôn rhywun. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n dibynnu ar eu ffonau symudol i gysylltu â’u staff allan o’u swyddfeydd ac mae’r twyllwyr yn gobeithio manteisio ar gywreinrwydd y perchennog a bod angen galw rhifau galwadau coll er mwyn y busnes. Gallai’r alwad gostio cannoedd o bunnoedd i’r busnes.

Mae twyllwyr hefyd yn gobeithio manteisio ar ddefnyddwyr sydd wedi prynu dyfais symudol newydd yn ddiweddar. Mae dyfeisiau symudol yn fwyfwy costus a chymhleth a, chyda cymaint o fusnesau’n dibynnu ar ffonau symudol a ddyfeisiadau tablet i weithio o bell a gweithio o gartref, mae’n werth eu hyswirio.

Bydd twyllwyr yn manteisio ar hyn, yn ffonio ac yn cynnig bargen ar yswiriant ffôn symudol nad yw un ai’n bodoli neu’n anaddas at y diben. Os byddwch yn prynu yswiriant, prynwch gan ddarparydd cofrestredig bob tro.

Eiddo Deallusol

Term cyffredinol yw twyll Eiddo Deallusol sy’n disgrifio amrywiaeth eang o droseddau ffugio a lladrata.

Mae rhai o’r meysydd lle mae’r problemau mwyaf – ffugio nodau masnach a lladrata hawlfraint – yn droseddau Eiddo Deallusol difrifol sy’n twyllo defnyddwyr, yn bygwth iechyd a diogelwch, yn effeithio’n ddrwg iawn ar elw busnesau ac yn amharu ar hawliau perchnogion nodau masnach a hawlfraint.

Mae cynnyrch ffug neu sy’n dynwared, megis nwyddau cyfryngau digidol a nwyddau trydanol, nwyddau ffasiwn a hyd yn oed fwyd, yn peryglu diogelwch defnyddwyr dros y byd i gyd. Mae cwsmeriaid diniwed yn peryglu’u hiechyd bob tro maen y nhw’n prynu cynnyrch ffug megis alcohol a bwyd, neu wrth deithio mewn cerbydau ac awyrennau wedi’u hadeiladu gyda darnau ffug o ansawdd is-safonol.

Mae troseddau Eiddo Deallusol hefyd yn gallu peri niwed ariannol sylweddol i fusnesau drwy golli incwm yn ogystal â difrodi enw da drwy fod â chysylltiad â nwyddau o ansawdd gwael.

Mae Adroddiad Trosedd Eiddo Deallusol yn manylu ar ymchwiliadau Awdurdodau Safonau Masnach yn 2012 / 13. Mae’r adroddiad yn dangos y tueddiadau a’r bygythiadau hynny sy’n dechrau ymddangos:

  • Bu cynnydd o 27% yn nifer yr ymchwiliadau i werthu alcohol anghyfreithlon
  • Roedd 64% o’r awdurdodau a ymatebodd wedi ymchwilio i nwyddau ffug neu wedi’u lladrata ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol a 69% wedi gwneud hynny ar wefannau
  • Dillad ffug oedd yn cyfrif am 90% o’r digwyddiadau o nwyddau ffug a gafodd eu hymchwilio gan Safonau Masnach

Dylai busnesau godi patent ar eu hasedau Eiddo Deallusol i’w gwarchod rhag eu lladrata neu eu defnyddio heb awdurdod. Bydd cyfreithwyr Eiddo Deallusol profiadol yn gallu helpu i ganfod beth ellir a beth na ellir cael hawlfraint arno a pha Eiddo Deallusol sydd gan fusnes.

Am gyngor ar adrodd ar droseddau Eiddo Deallusol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Safonau Masnach: http://www.tradingstandardswales.org.uk/contact/index.cfm

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol hefyd yn gallu cynnig cyngor ar drosedd Eiddo Deallusol: http://www.ipo.gov.uk/ipenforce-ip.htm

Twyll Cardiau Plastig

Mae busnesau’n dibynnu ar gardiau credyd a debyd i gael eu harian ar unwaith. Mae rhai busnesau’n caniatau i nifer o bobl ddefnyddio’u cardiau, sy’n golygu eu bod yn gallu newid dwylo sawl gwaith y dydd ac a allai achosi problemau ynghylch diogeledd.

Gallai twyllwyr ddefnyddio’r cardiau i gael gwybodaeth werthfawr ynghylch unigolion a busnesau. Waeth pa mor ofalus yw perchennog ynghylch dewis rhifau pin a nodweddion preifatrwydd, mae colli cerdyn yn gallu creu trafferthion enbyd.

Un o’r pryderon pennaf yw’r twyll ‘cerdyn ddim yn bresennol’. Os yw twyllwr yn cael gafael ar fanylion cardiau, mae’n gallu ei ddefnyddio dros y ffôn neu ar lein er nad yw’r cerdyn ganddo. Gall hyn ddigwydd hefyd pan mae perchennog cerdyn yn meddwl ei fod yn ddiogel. Mae cardiau’n gallu cael eu ‘sgimio’ am eu manylion wrth dynnu arian o dwll yn y wal a bydd twyllwyr yn eu defnyddio.

Sgimio

Er ei bod yn hawdd, weithiau, gweld fod rhywun wedi amharu ar beiriant twll yn y wal, droeon eraill mae’r dyfeisiadau wedi’u cuddio’n dda. Weithiau, bydd twyllwyr yn defnyddio camera cudd i gofnodi manylion ‘pin’ pan fydd cerdyn yn cael ei ddefnyddio.

Mae’n anodd canfod sgimio. Does yna’r un ffordd, mewn gwirionedd, o wybod fod manylion wedi’u lladrata nes bod arian yn diflannu neu bethau rhyfedd yn ymddangos ar ddatganiadau. Os digwydd hynny, mae’n rhaid hysbysu’r banc.

Twyll Derbyniadau a Chynhaliaeth

Yn yr hinsawdd economaidd anodd hwn, dyw’r demtasiwn i ladrata neu i dwyllo erioed wedi bod yn gryfach. Yn anffodus, gallai canlyniadau twyll mewnol fod yn ddinistriol i lawer o fusnesau. Beth sydd fwyaf poenus? sgam dywyllodrus gan ddieithryn neu sgam fewnol gan staff y cwmni ei hunan? Nid yn unig ar y rhestr gyflog y mae sgam fewnol yn effeithio, gallai hefyd niweidio enw da cwmni.

Mae twyll yn erbyn costau teithio a chynhaliaeth yn cael ei gyflawni pan fydd aelod o staff sy’n gallu hawlio treuliau yn hawlio’n gelwyddog fwy o filltiroedd nag mae wedi’u teithio, am deithiau heb eu gwneud o gwbl neu am fwy o swm nag a wariwyd.

Gall y math hwn o dwyll hefyd gynnwys llofnodion ffug i awdurdodi talu, neu newidiadau heb awdurdod i daflenni amser. Yn ei hanfod, mae aelod o staff yn lladrata arian gan y cwmni ac efallai oddi ar ei gleientiaid os mai’r cleientiaid sy’n talu’r costau.

Mae’r math hwn o dwyll yn difetha’r ymddiriedaeth sydd gan y cyflogwr yn yr aelod o staff sy’n cyflawni’r twyll a gallai ddifetha hefyd enw da’r aelod o staff gyda darpar gyflogwyr

Awgrymiadau ar sut i rwystro twyll gan staff

  • Sefydlwch set o reolau hawlio costau teithio a chynhaliaeth a gwnewch yn si ˆwr fod y staff yn eu deall - a bod canlyniadau peidio â chadw at y rheolau hynny’n glir.
  • Dylai rheolwyr gymharu hawliadau gyda’r cynlluniau gwaith a’r milltiroedd sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer teithiau, biliau gwestai a thocynnau rheilffordd rheolaidd.
    • Gellir defnyddio mapiau Google i gael syniad bras o bellterau
    • Dylid gofyn i staff amcangyfrif costau cyn cadarnhau eu bod yn prynu, a chymharu hynny yn erbyn y swm sy’n cael ei hawlio
  • Dylid cyfarwyddo timau cyllid i sicrhau fod y cyfraddau cywir yn cael eu defnyddio ar gyfer hawlio a bod dogfennau megis anfonebau gwestai yn cael eu cynnwys.
  • Gellir gorfodi polisi o ‘dim derbynneb, dim talu’.
  • Dylai’r rheolwyr gadw llygad o dro i dro ar fanylion hawliadau a sicrhau fod timau cyllid yn cynnal eu hasesiadau’n drwyadl.

Os yw busnes wedi syrthio’n ysglyfaeth i dwyll gan staff, dylai gysylltu ag Action Fraud, un ai ar lein: http://www. tradingstandardswales.org.uk/contact/index.cfm neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Gwerwydo a Pharmio

Mae busnesau hefyd yn gallu dioddef o ‘werwydo’ neu ‘pharmio’ eu manylion banc. Mae pob cyfeiriad ebost yn derbyn ebyst spam. Mae potswyr yn paratoi ebyst ‘gwerwydo’ i ymddangos yn broffesiynol yn y gobaith eu bod yn ddigon da i dwyllo pwy bynnag sy’n eu derbyn yn rhannu eu manylion.

Mae pharmio’n debyg i werwydo. Wrth pharmio, mae twyllwyr yn paratoi gwefannau ffug tebyg i rai swyddogol banciau yn y gobaith eu bod yn ddigon da i dwyllo pobl i osod eu manylion bancio ar lein arnyn nhw. Mae unrhyw un sy’n gosod eu manylion banc yn meddwl eu bod ar wefan gyfreithlon, ond, mewn gwirionedd, mae twyllwyr yn cadw eu manylion i dreiddio i’w cyfrifon banc.

Twyll Ymgeisio

Er ei fod yn cael ei ystyried yn aml yn fath o dwyll adnabyddiaeth, mae twyll ymgeisio yn estyniad o dwyll cardiau plastig. Wrth gyflawni twyll ymgeisio, bydd twyllwr yn ymgeisio am gerdyn credyd neu i agor cyfrif banc yn enw rhywun arall. Fel arfer, bydd y twyllwr wedi paratoi ar gyfer y twyll drwy ladrata’r dogfennau fydd eu hangen i ddilysu’r cais.

Offer sgamio a ddefnyddir yn aml

Yn aml, bydd gan sgamwyr un neu ragor o offer i gyflawni’r twyll neu’r lladrad. Dyma rai sy’n cael eu defnyddio amlaf:

Rhifau ffôn

Cofiwch: Prin fod neb ond sgamwyr yn defnyddio rhifau +4470.

Mae rhifau ffôn ailgyfeirio personol (sydd hefyd yn cael eu galw yn “Ailgyfeirio byd-eang y DU) yn hawdd eu hadnabod ac yn gadach coch ar gyfer adnabod sgamiau a sgamwyr.

Mae’r rhif yn aml yn cael ei roi ar ffurf +447024013818. Mae’r côd gwlad +44 yn dangos fod y rhif yn y DU ond peidiwch a chael eich twyllo gan y tric bach hwn.

Pan fyddwch yn cael rhif +4470 wrth ebostio, mae’n well rhagdybio ei fod yn rhif sgamiwr – ac mae’n well peidio â’i ffonio!

Gwefannau ffug

Gwefannau yw’r prif ddull o gyfathrebu dros y Rhyngrwyd ond, yn anffodus, mae’n gallu bod yn anodd dweud a yw’r rhain yn rhai ffug ai peidio. Mae twyllwyr yn dod yn fwyfwy deheuig ac maen nhw’n gallu creu a chynnal gwefannau hynod soffistigedig i geisio twyllo defnyddwyr. Yn dibynnu ar ba mor fedrus yw’r twyllwr, gellir gwneud gwefannau mor ddeniadol a gyda gwybodaeth sy’n edrych mor swyddogol fel bod defnyddwyr yn cael eu twyllo’n hawdd.

Yn aml, mae’r gwefannau hyn yn cael eu cynnal y tu allan i’r DU ac yn ‘fyw’ ond am ychydig ddyddiau - ond mae hynny’n ddigon i dwyllo pobl i roi manylion eu cardiau banc a chredyd neu wybodaeth bersonol arall.

Awgrymiadau Ardderchog i Fusnesau Osgoi Sgamiau

Mae’r twf cyflym mewn technoleg yn ystod y deg mlynedd diwethaf wedi dod â chyfleoedd newydd i sgamwyr ladrata arian - a hynny ar raddfa anhygoel.

Mae sgamwyr yn gyfrwys ac yn benderfynol o gael eu ffordd. Ond y mae yna rai pethau y gall busnesau eu gwneud i sicrhau na fyddan nhw’n syrthio’n ysglyfaeth i sgamiau o’r fath. Dyma rai o’n hawgrymiadau gorau:

  • Cofiwch fod yn bwyllog pan fyddwch yn cymryd penderfyniadau busnes dros y ffôn. Ni fydd cwmnïau parchus yn rhoi pwysau arnoch chi i benderfynu ar amrant, felly peidiwch â chael eich twyllo i ateb ar eich union.
  • Gwnewch yn si ˆwr fod pob dogfen yn cael ei dileu’n llwyr wrth ailgylchu neu waredu hen gyfrifiaduron a gliniaduron - fe fyddech chi’n synnu mor hawdd yw hi i sgamwyr gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol drwy yriannau caled.
  • Cofiwch gael enw, enw busnes, rhif ffôn, cyfeiriad stryd, cyfeiriad post a rhif trwydded busnes cyn symud ymlaen i drafod busnes. Er bod sgamwyr yn rhoi gwybodaeth ffug, gallwch chi gadarnhau a yw’r wybodaeth yn gywir ai peidio.
  • Peidiwch â thalu ymlaen llaw am wasanaethau. Talwch pan fyddwch wedi cael y gwasanaeth ac ar ôl cadarnhau ei fod yn dderbyniol.
  • Byddwch yn ofalus wrth drafod busnes gyda chwmnïau y tu allan i’r DU. Os cewch chi drafferth gyda’r cwmni, mae’n llawer iawn anos ei ddatrys.
  • Gofynnwch am gyfeiriad stryd a rhif ffôn yn hytrach nag un blwch post a ffoniwch y gwerthwr i weld a yw’r rhif ffôn yn gywir ac yn gweithio.
  • Sefydlwch hysbysiadau Google am “latest scams” a “business crime” i gael gwybod am sgamiau newydd a soniwch wrth eich staff amdanyn nhw.

 

Beth i’w wneud os cewch chi eich sgamio?

Mae’r rhai sydd wedi dioddef sgam a thwyll yn pendroni’n aml lle i gael help a chyngor. Nid yw heddluoedd Cymru bellach yn ymchwilio nac yn trin twyll eu hunain. Yn hytrach, mae achosion twyll yn cael eu cyfeirio at Action Fraud UK.

Canolfan adrodd twyll ganolog, arbenigol yw Action Fraud UK. Mae’n cael ei rhedeg gan asiantaeth y llywodraeth sy’n helpu i gydlynu’r frwydr yn erbyn twyll yn y DU, yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol, mae’n gweithio gyda’r Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol i sicrhau fod adroddiadau am dwyll yn cael eu trin gan y bobl iawn yn y lle iawn.

Mae yna gyfoeth o wybodaeth ar wefan Action Fraud UK ynghylch pob math o dwyll a throseddau, yn ogystal â gwasanaeth ar lein i adrodd am dwyll ac mae ar gael bob adeg o’r dydd. Mae yna hefyd gymorth i’w gael gan ymgynghorwyr ar lein wrth lenwi’r ffurflen.

Mae ymgynghorwyr twyll arbenigol hefyd ar gael ar 0300 123 2040. Mae’r llinellau ar agor saith niwrnod yr wythnos.

Mae Action Fraud UK yn ymdrin â holl achosion twyll. Yr unig adeg y dylid adrodd ar dwyll wrth yr heddlu yw os yw trosedd yn cael ei gyflawni yr adeg hynny neu os yw rhywun mewn perygl ar y pryd. Bydd yr heddlu’n derbyn adroddiadau ffurfiol o dwyll mewn tri amgylchiad:

  • Os yw trosedd yn cael ei gyflawni’r adeg hynny neu os yw ar fin cael ei gyflawni er enghraifft, os yw nwyddau ar fin cael eu danfon neu os yw arian mewn perygl
  • Os yw’r person sy’n cael ei amau o gyflawni twyll yn adnabyddus yn yr ardal ac y gellir ei adnabod yn hawdd.
  • Os yw’r sawl sy’n dioddef y drosedd yn berson bregus. Efallai na fydd ganddyn nhw, neu na allan nhw ddefnyddio, ffôn i riportio nac yn gallu riportio dros y rhyngrwyd a’u bod angen help yr heddlu i riportio’r drosedd

Os yw twyllwyr wedi defnyddio cerdyn banc neu fanylion banc, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r banc cyn adrodd i’r Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol. O dan yr amodau hynny, efallai na fydd yn rhaid i’r dioddefwr wneud unrhyw beth, oni bai:

  • Nad yw’r cerdyn / cyfrif yn un banc neu sefydliad ariannol yn y DU
  • Na fydd y banc yn ad-dalu’r dioddefwr neu eu bod wedi gofyn yn benodol i’r dioddefwr gyflwyno adroddiad
  • Bod gan y dioddefwr wybodaeth a allai fod yn fodd o adnabod y troseddwr

Adrodd ar Sgamiau ar lein

Mae gan nifer o wefannau eu trefniadau eu hunain ar gyfer adrodd ar hysbysebion neu ebyst tywyllodrus, er enghraifft, mae Trydar yn caniatáu i ddefnyddwyr adrodd ar a gwahardd defnyddwyr y maen nhw o’r farn sy’n sbamwyr.

Phishing e-mails can be reported through the Action Fraud website.

Rhestr Wirio - y Deg Uchaf

  1. Cofiwch ddarllen print mân Amodau a Thelerau pob amser

    efallai bydd cwmnïau’n cuddio cymalau yn yr Amodau a Thelerau nad yw pobl hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yno. Gallai’r cymalau hynny costio llawer o arian i chi.
     
  2. Os ydych yn meddwl fod rhywbeth yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod

    Os ydych yn cael cynnig bargen, dillad drud am y nesa peth i ddim neu feddalwedd cyfrifiadur yn rhad, byddwch yn wyliadwrus. Mae’n debyg o fod yn rhy dda i fod yn wir. Gall nwyddau ffug fod yn fargen wych, ond ni fydd yr ansawdd cystal
     
  3. Peidiwch ag ateb e-byst yn gofyn am ddata personol

    Peidiwch byth ag ateb e-byst nad ydych chi wedi gofyn amdanyn nhw sy’n gofyn am ddata a gwybodaeth bersonol. Dim ond i safleoedd cyfrifol dros gysylltiad diogel y dylech chi roi gwybodaeth bersonol.
     
  4. Byddwch yn gall gyda’ch cyfrineiriau

    Newidiwch nhw’n rheolaidd a pheidiwch â’u gwneud yn rhy amlwg. Yn ôl gwybodaeth ddiweddar, 123456 yw’r cyfrinair mwyaf poblogaidd.
     
  5. Lluniwch bolisi cyfryngau cymdeithasol

    Gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu harestio am sylwadau sarhaus ar Trydar, mae’n rhaid sicrhau ymarfer gorau ymysg eich staff. Bydd polisi cyfryngau cymdeithasol yn arweiniad iddyn nhw.
     
  6. Amgryptiwch eich data

    Ni fydd amgryptio data yn ei atal rhag cael ei ladrata ond bydd yn ei gwneud yn anos i’r haciwr ei ddefnyddio.
     
  7. Diogeledd ffisegol

    Bydd sicrhau fod adeiladau a swyddfeydd y busnes yn ddiogel yn golygu y byddwch yn gwybod pwy sydd yn yr adeilad. Gorau po leiaf o bobl sy’n gallu cael at eich dogfennau a’ch gwybodaeth bwysig, mae hynny’n eu gwneud yn fwy diogel.
     
  8. Cadwch eich llyfrau’n gyfredol

    Dylai’r wybodaeth ddiweddaraf fod ar lyfrau a chofnodion er mwyn gallu tracio anfonebau, taliadau a phethau eraill. Mae hynny’n golygu os cewch anfoneb dywyllodrus, y bydd yn haws i chi ei chanfod.
     
  9. Adrodd ar weithgaredd amheus

    Os byddwch yn derbyn llythyr, e-bost neu alwad ffôn amheus, cysylltwch â’r awdurdodau perthnasol.
     
  10. Byddwch yn wyliadwrus

    Mae llawer o bobl cael eu dal gan sgamiau a thwyll oherwydd nad ydyn nhw’n ddigon gwyliadwrus. Os ydych yn amheus o beiriant arian neu anfoneb, peidiwch â’i ddefnyddio na’i thalu nes eich bod wedi ymchwilio.
Lawrlwytho'r ddogfen: 68.75 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.