Mae Busnes Cymru yn cefnogi gweithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi o Tata Steel UK sy’n ystyried hunangyflogaeth neu ddechrau busnes.
Rydym yn cynnig cymorth cynghori un i un, gweminarau, a gweithdai i’ch helpu i gymryd y camau nesaf ar eich taith hunangyflogaeth.
Gallwn hefyd eich cefnogi i wneud cais am unrhyw grantiau neu gyllid y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer.
Cwblhewch y ffurflen ymholiad isod.