BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gwasanaeth Busnes Cymru – Hysbysiad preifatrwydd ymholiad cychwynnol cleient

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru. Mae'r hysbysiad hwn yn amlinellu sut y byddwn yn defnyddio eich data personol, a hefyd yn pennu eich hawliau.  Caiff ei lunio o dan Erthyglau 13 a/neu 14 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data  (UK GDPR).

Treuliwch ychydig o funudau yn ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd.

1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu'r data a gesglir

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolwr Data ar gyfer y data personol a busnes rydych chi'n ei ddarparu wrth dderbyn cymorth gan Busnes Cymru. 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol yw adran 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (cyfreithlondeb prosesu). Mae'r prosesu hwn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus i'ch adnabod a darparu'r cyngor a'r wybodaeth fusnes fwyaf priodol.

 

2. Pwy fydd yn cael gweld eich data:

Bydd Busnes Cymru a'i gontractwyr gwasanaeth trydydd parti yn casglu ac yn storio eich data. 

Bydd eich data yn cael ei storio ar System TG ddiogel Llywodraeth Cymru a systemau TG diogel ein contractwyr gwasanaeth trydydd parti sy'n darparu'r gwasanaeth i chi.

Mae'n cael ei gasglu a'i rannu gyda'r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrwyd yn flaenorol:

  • Cyrff ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i gynnal gwaith ymchwil a dadansoddi neu i fonitro cyfle cyfartal o ran gwasanaeth Busnes Cymru
  • Timau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a'i gweinyddwyr technegol systemau sy'n cefnogi'r system TG.  Ni fydd gweinyddwyr systemau technegol yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.
  • Swyddfa Archwilio Cymru neu'r rhai sy'n gweithredu ar eu rhan, neu archwilwyr priodol eraill Gwasanaethau Busnes Cymru.



3. Pa mor hir ydyn ni'n ei gadw?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol am o leiaf 3 blynedd fel rhan o'n hadolygiadau hyfforddiant ac ansawdd parhaus.

4. Beth yw eich hawliau?

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi;
  • i ofyn inni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw;
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

 Customer Contact

 Wycliffe House

 Water Lane

 Wilmslow

 Cheshire

 SK9 5AF.

 Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk

Am help gydag unrhyw rai o’r hawliau uchod, ffoniwch ein Llinell Gymorth 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod: https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni 

5. Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn i gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld yr wybodaeth a roddwch, a hynny fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn cysylltu â chi i glywed eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

6. Newidiadau i'r polisi hwn

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau'n cael eu postio yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Pan fydd y polisi hwn yn cael ei newid, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn ichi allu gweld y fersiwn newydd.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth:

Cyfeiriad post:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10  3NQ

Cyfeiriad e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.