BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd - Grantiau Cronfa Adferiad Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru: Cronfa Gweithwyr Llawrydd

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod eang o gynlluniau grant i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach a mwy ffyniannus.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu o ran eich cais am grant neu gais am gyllid grant. Caiff y wybodaeth ei phrosesu yn rhan o'n tasg gyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â swyddogaethau a dibenion craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu i asesu eich cymhwysedd i gael cyllid.

Cyn i ni ddarparu cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Mae'r gwiriadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi i asiantaethau atal twyll trydydd parti ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll neu Awdurdod Lleol, yn penderfynu eich bod yn peri risg o dwyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r arian grant y gwnaethoch gais amdano, neu efallai y byddwn yn rhoi'r gorau i ddarparu’r cyllid grant presennol i chi.

Bydd cofnod o unrhyw dwyll neu risg gwyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll a’r Awdurdodau Lleol a gall arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Ar ôl cyflwyno cais neu ddyfarnu unrhyw grant, gellir gofyn am y data a gesglir yn ystod y broses a'i drosglwyddo'n ddiogel i asiantaethau eraill y llywodraeth fel rhan o unrhyw wiriadau twyll sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r ymgeisydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i werthuso llwyddiant y grant hwn a bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddadansoddi cyrhaeddiad ac effaith y grant a roddir i fusnesau yng Nghymru.

Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gesglir ac a gedwir gan Lywodraeth Cymru yn ei chylch gwaith fel y rheolwr data er mwyn darparu cymorth parhaus, neu gyfleoedd neu atgyfeiriadau pellach a allai fod o fudd i chi.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cynnwys:

Enwau unigol, cyfeiriad, gwybodaeth gyswllt (gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost) Rhywedd, Tarddiad Hil/Ethnig, Anabledd, oedran a dewis iaith.

Rhannu'r data

Ar gyfer y cynllun penodol hwn, bydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Byddant yn rhoi ffurflen gais i chi, yn gwirio eich bod yn gymwys i dderbyn y taliad ac yn gwneud y taliad. Byddant yn cadw eich ffurflen gais at ddibenion archwilio ac yn rhoi eich manylion a'r taliadau yr ydych wedi’u gwneud i Lywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru fydd yn berchen ar y data. Gall Llywodraeth Cymru neu unrhyw drydydd parti sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru gysylltu â chi (y cleient) er mwyn cynnig cymorth, ymchwil a gwerthuso a/neu i roi adborth ar eich profiad o'r prosiect. Bydd yr holl wybodaeth hon yn cael ei ddadansoddi a'i chyflwyno'n ddienw.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn y ffeiliau yn unol â'n polisi cadw. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, yna bydd eich data personol yn cael ei gadw am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd o'r holl amodau sy'n ymwneud â'r grant a ddyfarnwyd a bod y taliad cyfan wedi'i wneud. Fodd bynnag, os caiff yr arian ei ddyfarnu o dan Ryddhad Bloc Cyffredinol neu De Minimis, bydd eich data personol yn cael ei gadw am 10 mlynedd o ddiwedd unrhyw ddyfarniad cymorth. Os byddwch yn aflwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gafael ar y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru arnoch
  • i’w wneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i (o dan amgylchiadau penodol) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • i (o dan amgylchiadau penodol) 'ddileu' eich data
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i ddefnydd, neu os ydych eisiau arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: Dataprotectionofficer@gov.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House Water Lane Wilmslow Cheshire SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

 

Diweddarwyd ddiwethaf 15 Mehefin 2021.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.