Nid yr Hysbysiad Preifatrwydd cywir? Chwiliwch am yr un cywir ar Mynegai Hysbysiadau Preifatrwydd Busnes Cymru.
Er mwyn cael ystyriaeth ar gyfer Cronfa Cydnerthedd Brexit a derbyn cymorth gan Busnes Cymru, mae’n ofynnol i ni gasglu gwybodaeth gennych. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes berthnasol a fydd yn ein galluogi i ddarparu’r cyngor a’r wybodaeth briodol i chi. Bydd methu â darparu’r wybodaeth hon i ni yn eich atal rhag bod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cydnerthedd Brexit a chael mynediad at wasanaeth Busnes Cymru.
Mae Busnes Cymru angen eich gwybodaeth bersonol er mwyn asesu eich cymhwyster ar gyfer adrannau grant y gronfa a hefyd bydd gwybodaeth ariannol am eich busnes yn cael ei darparu i Fanc Datblygu Cymru (DBW) iddyn nhw asesu eich cymhwyster ar gyfer benthyciad masnachol sy’n cael ei weithredu drwy Fanc Datblygu Cymru.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolwr data a Busnes Cymru fydd y prosesydd data yng nghyswllt gwybodaeth bersonol yn ymwneud â’r grant a Banc Datblygu Cymru fydd y rheolwyr data o ran gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes ariannol i ddibenion ymgeisio am fenthyciad a derbyn benthyciad ganddyn nhw.
Os ydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru fel rhan o broses ymgeisio Cronfa Cydnerthedd Brexit, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o ddatganiad preifatrwydd Banc Datblygu Cymru yn ogystal â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Gellir cael mynediad at hysbysiad preifatrwydd Banc Datblygu Cymru gan ddefnyddio'r ddolen hon https://developmentbank.wales/cy/polisi-preifatrwydd
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu’n unol â’r gyfraith ac yn dryloyw.
Y seiliau cyfreithiol dros brosesu data fydd tasg Gyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae prosesu data’n angenrheidiol er mwyn i Busnes Cymru ddarparu'r grant hwn, ac mae sail glir dros hynny yn y gyfraith.
Mae hyn yn unol ag Erthygl 6(1)(e) y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 ac yn seiliedig ar ein hawdurdod swyddogol dan Adran 60 (1) (a) Deddf Llywodraeth Cymru. Lle y mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gymryd camau a ystyrir yn briodol ganddi i hyrwyddo neu wella lles economaidd Cymru. Lle bo data categori arbennig yn cael ei ddarparu gan ddefnyddwyr, mae dan yr amod a roddir yn Erthygl 9(2) (a) GDPR (Rheoliad yr UE 2016/679).
Rhowch funud neu ddau i ddod yn gyfarwydd â’n harferion preifatrwydd
1. Pam ein bod yn casglu ac yn prosesu’r data a gesglir
Er mwyn i chi gael ystyriaeth ar gyfer Cronfa Cydnerthedd Brexit a derbyn cefnogaeth Busnes Cymru, mae’n ofynnol i ni gasglu gwybodaeth gennych. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes berthnasol a fydd yn ein galluogi i ddarparu’r cyngor a’r wybodaeth briodol i chi. Bydd methu â darparu’r wybodaeth hon inni yn eich atal rhag bod yn gymwys ar gyfer y gronfa a chael mynediad at y gwasanaeth. Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys enw, cyfeiriad, gwybodaeth gysylltu a gwybodaeth am eich busnes. I dderbyn cymorth Busnes Cymru, byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth ddemograffig sy’n ein helpu i dargedu’r grwpiau demograffig cywir ar gyfer Cymorth Busnes. Caiff ymgeiswyr yr opsiwn o nodi “Gwell gen i beidio â dweud”. Os na fyddwch yn llwyddiannus yn eich cais, byddwn yn ysgrifennu atoch gydag amlinelliad o’r rhesymau pam a sut y gallwch ail-ymgeisio am gyllid (Os byddwch yn dymuno).
2. Pwy fydd yn gallu gweld eich data:
Bydd gweinyddwyr technegol y system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu gweld yr wybodaeth a gesglir. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd. Caiff yr wybodaeth a gesglir i ddibenion Busnes Cymru ei rhannu gyda’r sefydliadau canlynol i’r dibenion a nodir isod –
- Gan gontractwyr yn cyflwyno gwasanaeth Busnes Cymru sy’n darparu cymorth i fuddiolwyr.
- Gan sefydliadau ymchwil gymdeithasol gymeradwy, i wneud gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal yng nghyswllt gwasanaeth Busnes Cymru.
- Y Comisiwn Ewropeaidd a Thîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd (EFAT) a fydd yn cymryd samplau o’n data i sicrhau ein bod yn dilyn y prosesau cywir.
- Bydd rhywfaint o wybodaeth ariannol am eich busnes yn cael ei rhoi i Fanc Datblygu Cymru fel y gallant asesu a ydych yn gymwys am fenthyciad masnachol a weithredir drwy Fanc Datblygu Cymru. Gallwch weld eu datganiad preifatrwydd yma https://developmentbank.wales/cy/polisi-preifatrwydd. Bydd Banc Datblygu Cymru yn rhannu gwybodaeth bersonol â Llywodraeth Cymru ond bydd hyn yn gyfyngedig i’r data sy’n ofynnol ar gyfer gweinyddu elfen grant Cronfa Cydnerthedd Brexit.
3. Beth fyddwn ni’n ei wneud â’r wybodaeth
- Monitro ac adrodd ar y nifer o unigolion a mentrau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy’n cael cymorth (e.e. gwahanol oedrannau, rhywiau ac ethnigrwydd).
- Nodwch, os gwelwch yn dda, mai dim ond â sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn ymchwil/gwerthusiad o’ch profiad ar y prosiect, bydd diben y cyfweliad neu arolwg yn cael ei esbonio i chi a rhoddir dewis i chi dderbyn neu wrthod y cais i gymryd rhan. Dim ond i ddibenion ymchwil gymeradwy y defnyddir eich manylion cysylltu a byddant yn cael eu dileu pan fydd yr ymchwil gymeradwy wedi’i chwblhau.
4. Am ba hyd y caiff eich manylion eu cadw
Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru dan ddeddfwriaeth Cymorth Gwladol gadw eich data personol am isafswm o 10 mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben ac ar ôl y cyfnod hwnnw caiff ei ddinistrio’n ddiogel. Mae gan Fanc Datblygu Cymru ei bolisi cadw ei hun. Gweler hysbysiad preifatrwydd Banc Datblygu Cymru ar y ddolen isod https://developmentbank.wales/cy/polisi-preifatrwydd
5. Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data mae gennych hawl i’r canlynol:
- gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru’n ei gadw amdanoch chi;
- mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny;
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (o dan rai amgylchiadau);
- ‘dileu’ eich data (o dan rai amgylchiadau);
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
I gael cymorth gydag unrhyw un o’r hawliau uchod cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth Chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am weld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn cysylltu â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.