Cynllun dielw i fasnachwyr ydy ‘Prynwch Efo Hyder’ a’i nod yw rhoi rhestr i’r henoed, pobl agored i niwed ac aelodau cyffredinol o’r cyhoedd, o Fasnachwyr sydd wedi cael eu fetio a’u harchwilio’n drylwyr gan Wasanaethau Safonau Masnach.
Mae’r cynllun yn darparu rhestr i ddefnyddwyr o fusnesau sydd wedi ymrwymo i fasnachu’n deg. I fusnesau sy’n dymuno dangos pam eu bod yn wahanol i bawb arall, mae’r stamp ‘Prynwch Efo Hyder – Cymeradwywyd gan Safonau Masnach’ yn helpu i roi hyder i ddarpar gwsmeriaid ac yn dangos eu bod yn cymryd masnachu’n deg o ddifrif. Mae ymaelodi hefyd yn golygu bod busnesau'n gallu cael cyngor gan bersonél cymwys Safonau Masnach, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu dod o hyd i atebion os ydynt byth yn ansicr ynglŷn â’r gyfraith.
Mae mwy na 50 awdurdod lleol ledled y DU yn cefnogi’r cynllun, ac wedi penderfynu bod ‘Prynwch Efo Hyder’ yn cynnig gwarchodaeth i gwsmeriaid a chymorth i fusnesau sy’n hanfodol. Hyd yn oed os nad ydy eich cyngor yn cymryd rhan yn y cynllun, gallwch o hyd ymaelodi a chael eich cymeradwyo gan gynllun ‘Prynwch Efo Hyder’ Safonau Masnach.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Prynwch Efo Hyder.