BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adnodd newydd ar-lein i helpu teuluoedd sy’n gweithio i wneud y gorau o absenoldeb rhiant a rennir

Mae Absenoldeb a Chyflog Rhiant a Rennir yn galluogi rhieni sy’n gweithio ledled Prydain i rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a hyd at 37 wythnos o gyflog o flwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn (neu o fewn blwyddyn i leoli plentyn gyda nhw, os yw’r plentyn yn cael ei fabwysiadu).

Bydd adnodd ar-lein newydd yn helpu rhieni sy’n disgwyl i rannu amser i ffwrdd yng nghyfnodau allweddol, cynnar bywyd eu babi.

Bydd yr adnodd newydd yn ei gwneud hi’n haws i rieni sy’n disgwyl gael mynediad at a deall Absenoldeb a Chyflog Rhiant a Rennir. Bydd rhieni yn gallu gwirio a ydyn nhw’n gymwys am y cynllun, cyfrifo eu hawl am daliad, ynghyd â lawrlwytho’r holl ddogfennau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau absenoldeb gan eu cyflogwyr.

Mae Llywodraeth y DU wedi llunio canllawiau ar gyfer cyflogwyr – Shared Parental Leave and Pay: employer guide

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) wybodaeth hefyd i gyflogwyr a gweithwyr ar absenoldeb Rhiant a Rennir, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.acas.org.uk/shared-parental-leave-and-pay

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.