BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adolygiad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol 2021/22: Sefydliad y Diwydiant Moduro

Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro yn dechrau adolygiad o’r cyfresi canlynol o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, gan gynnwys:

  • Gosod Trydan Modurol a Thrydan Symudol
  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio – Trelars Cerbydau Trwm
  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio – Tryciau Codi
  • Gosod Cerbydau
  • Ailgylchu Cerbydau
  • Cerbydau ACES (Autonomous Connected Electric Shared) 

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr i lywio hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol, a phrentisiaethau.

I sicrhau bod canlyniad yr adolygiad yn unol ag anghenion y diwydiant, ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gwahoddir cyflogwyr, arbenigwyr diwydiant a rhanddeiliaid perthnasol eraill i gyfrannu at yr adolygiad er mwyn sicrhau bod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn gyfoes ac yn addas i’w diben yn y sector.

Gallwch gymryd rhan yn y prosiect drwy:

  • Y Grŵp Llywio Prosiect
  • Gweithdai a / neu gyfweliadau (wyneb yn wyneb, ffôn neu Skype) ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i chi
  • Ymgynghoriadau a gweminarau ar-lein

Os ydych chi am gymryd rhan yn yr adolygiad o’r safonau, cysylltwch â Caroline Harris carolineh@theimi.org.uk

Bydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan IMI.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.