Mae rhai cyflogwyr yn talu eu cyflogeion yn gynharach na’r arfer dros gyfnod y Nadolig. Gall hyn fod am nifer o resymau; er enghraifft, yn ystod cyfnod y Nadolig, gallai’r busnes gau, sy’n golygu bod angen talu gweithwyr yn gynharach na’r arfer.
Os ydych chi yn talu’n gynnar dros gyfnod y Nadolig, rhowch wybod beth yw eich diwrnod cyflog arferol neu gontractiol fel y dyddiad talu ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS), a sicrhau bod y FPS yn cael ei gyflwyno ar y dyddiad hwn, neu’n gynharach.
Er enghraifft, os ydych yn talu ar 20 Rhagfyr 2024 ond eich dyddiad talu arferol yw 31 Rhagfyr 2024, rhowch wybod am y dyddiad talu ar 31 Rhagfyr 2024. Yn yr enghraifft hon, byddai angen anfon y FPS ar neu cyn 31 Rhagfyr 2024.
Bydd gwneud hyn yn helpu i ddiogelu cymhwysedd eich gweithwyr ar gyfer budd-daliadau seiliedig ar incwm fel Credyd Cynhwysol, gan y gallai taliad cynnar effeithio ar hawliau nawr ac yn y dyfodol.
Nid yw’r brif rwymedigaeth adrodd Talu Wrth Ennill ar gyfer cyflogwyr yn cael ei heffeithio gan yr eithriad hwn, a rhaid i chi adrodd am daliadau o hyd ar y dyddiad y telir y cyflogai, neu’n gynharach.
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Running payroll: Reporting to HMRC: FPS - GOV.UKRunning payroll: Reporting to HMRC: FPS - GOV.UK