Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar amrywiadau lleol arfaethedig i’r dreth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer ail gartrefi, llety gwyliau tymor byr ac eiddo preswyl ychwanegol arall o bosibl, ac maentyn ymgynghori ar newidiadau i’r TTT er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl sy'n awyddus i brynu cartrefi i fyw ynddynt yn barhaol.
Rydym yn ceisio barn ar y canlynol:
- maint yr ardaloedd lle gallai amrywiadau lleol gael eu cyflwyno, er enghraifft, ardaloedd awdurdodau lleol cyfan neu gymunedau llai
- y dull o nodi’r ardaloedd lle gallai cyfraddau gwahanol fod yn gymwys
- y mathau o drafodiadau a allai fod yn destun cyfraddau gwahanol mewn ardaloedd lleol
Mae ymgynghoriad yn cau 28 Mawrth 2022.
Am ragor o wybodaeth ewch i LLYW.CYMRU