Mae'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau ffurflen dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 yn agosáu.
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesiad i wirio bod yr wybodaeth gywir ganddynt er mwyn cwblhau eu ffurflen dreth.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen treth ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 yw 31 Hydref 2021 ar gyfer y rhai sy’n cael eu cwblhau ar ffurflenni papur a 31 Ionawr 2022 ar gyfer ffurflenni ar-lein.
Gall cwsmeriaid ffeilio cyn y dyddiad cau ym mis Ionawr, ond mae ganddynt tan 31 Ionawr i dalu.
Rhaid i unrhyw gwsmer sy'n newydd i Hunanasesiad gofrestru drwy GOV.UK i dderbyn ei Gyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR). Rhaid i unigolion hunangyflogedig gofrestru ar gyfer Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 hefyd.
Eleni, bydd rhaid i gwsmeriaid ddatgan hefyd a gawsant unrhyw grantiau neu daliadau drwy gynlluniau cymorth COVID-19 hyd at 5 Ebrill 2021 gan fod y rhain yn drethadwy, gan gynnwys:
- Y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws
- Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws
- grantiau a thaliadau cymorth COVID-19 eraill megis taliadau hunanynysu, grantiau awdurdodau lleol a'r rhai ar gyfer y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
Mae CThEM yn cydnabod y gallai rhai cwsmeriaid fod yn poeni am dalu eu bil treth.
Gall cwsmeriaid gael cymorth i helpu i dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus, ac efallai y gallant sefydlu eu cynllun talu misol fforddiadwy eu hunain ar-lein drwy ddefnyddio cyfleuster hunanwasanaeth Amser i Dalu CThEM. Dylai cwsmeriaid gysylltu â CThEM i gael help os oes ganddynt bryderon am dalu eu bil.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.