BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arbedwch hyd at £2,000 y flwyddyn ar gostau gofal plant

 parents with son smiling while creating jack o lantern from pumpkin during Halloween celebration in kitchen at home

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn atgoffa teuluoedd sy’n gweithio i roi trît i’w cyllideb gofal plant y Calan Gaeaf hwn drwy agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Gall rhieni ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu gyda chostau gofal plant ar gyfer clybiau gwyliau ysgol, clybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant neu feithrinfeydd. Mae’n rhoi i deuluoedd sy’n gweithio, hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn ar eu biliau gofal plant ar gyfer plant hyd at 11 oed, neu £4,000 y flwyddyn hyd at 16 oed os oes gan eu plentyn anabledd.

Am bob £8 sy’n cael ei dalu i gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, bydd teuluoedd yn cael taliad atodol o £2 gan y Llywodraeth yn awtomatig. Wrth ddefnyddio’r taliad atodol sy’n rhydd o dreth, mae teuluoedd yn gallu arbed hyd at £500 bob 3 mis fesul plentyn neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl. 

Mae agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn gyflym ac yn hawdd ac mae’n bosibl gwneud hynny unrhyw adeg o’r flwyddyn. Dylai’r teuluoedd hynny nad ydynt wedi cofrestru hyd yma wirio’u cymhwystra a gwneud cais ar-lein heddiw.

Cynnig Gofal Plant Cymru

Help gyda chost gofal plant i rieni gymwys sydd â phlant 3 i 4 oed.

Oes angen i chi gael cymorth gyda chostau gofal plant? Trwy Gynnig Gofal Plant Cymru, fe allech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn. 

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen hon: Cynnig Gofal Plant Cymru | Help Gyda Chostau Gofal Plant yng Nghymru | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.