BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arddangosfa cyflenwyr diwydiant amddiffyn a gofod y DU yn Los Angeles gyda Boeing 2021

Cyfle i gwmnïau'r DU gwrdd â chynrychiolwyr Boeing Space & Defence o adrannau caffael, technegol ac adrannau eraill BDS (Boeing Defense, Space & Security Division) mewn digwyddiad a gynhelir yng nghanolfan BDS yn Los Angeles, California. Gall cyflenwyr y DU gyflwyno eu technolegau a'u galluoedd i'r timau BDS ar sail un i un yn ogystal ag yn ystod sioe arddangos.

Mae ehangu cyfleoedd i gwmnïau'r DU yng nghadwyn gyflenwi Boeing yn rhan o'r bartneriaeth twf a ffyniant hirdymor rhwng Boeing a Llywodraeth y DU. Mae Aerospace, Defence, Security (ADS) sy'n gweithio gydag Adran Masnach Ryngwladol a Gweinyddiaeth Amddiffyn Llywodraeth San Steffan yn dymuno cynorthwyo cwmnïau'r DU i ymgysylltu â Boeing a chyflwyno eu galluoedd mewn digwyddiad pwrpasol. 

Bydd cwmnïau â diddordeb yn dilyn proses ddethol gychwynnol. Yna gwahoddir cwmnïau llwyddiannus i fynychu'r digwyddiad. Bydd y rhestr derfynol o wahoddedigion ar sail disgresiwn Boeing. Bydd gofyn i chi ddisgrifio eich technoleg, cynnyrch neu wasanaeth o fewn fformat penodol i'w gynnwys mewn Llyfryn Galluoedd i'w adolygu gan Boeing.

Peidiwch â gwneud unrhyw drefniadau teithio ar gyfer y digwyddiad hyd nes y bydd eich presenoldeb wedi'i gadarnhau.

Dylai cwmnïau o'r DU sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru eu diddordeb drwy e-bostio Alan Buddle alan.buddle@adsgroup.org.uk erbyn 30 Gorffennaf 2021 a fydd yn rhoi manylion sut i ymuno â'r digwyddiad.

Cynhelir yr arddangosfa cyflenwyr ar 10 Tachwedd 2021 yn Los Angeles.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ADS
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.