BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arferion gorau ar gyfer adrodd ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n cyflogi 250 neu fwy o bobl gyhoeddi eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn. Tra bod gan gyflogwyr tan 5 Hydref 2021 i adrodd ar ddata o 2020/21, mae arweinwyr busnes yn cael eu hannog i goladu eu data cyn gynted â phosibl, er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio i gynllunio camau pwrpasol i fynd i’r afal ag unrhyw fylchau.

Yn y fideo byr hwn Report your Gender Pay Gap information - YouTube, mae Ife Onwuzulike o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yn egluro pam ei bod yn bwysig nawr fwy nag erioed i adrodd ar ddata bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Yn y cyfamser, daeth y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) ag arweinwyr at ei gilydd o sefydliadau amrywiol i drafod sut beth yw arferion gorau wrth adrodd ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, dylid cyflwyno data bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar-lein drwy wefan adrodd Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau Llywodraeth y DU a’i gyhoeddi ar wefan y cyflogwr.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.