Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec wedi lansio galwad ariannu i helpu sefydliadau yng Nghymru a Québec, Canada, i greu trefniadau cydweithredu a phartneriaethau sy'n cyfrannu at yr ymdrechion adfer yn dilyn COVID-19.
Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: adferiad gwyrdd, yr economi, gwyddoniaeth ac arloesi, a’r celfyddydau a diwylliant.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59pm ar 12 Gorffennaf 2021.
Cysylltwch â QuebecWalesProjects@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr alwad ariannu hon.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.