BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Diwydiant Arolwg Sgrin Cymru 2021

Fel sefydliad neu weithiwr llawrydd sydd wrthi’n gweithio yn y diwydiannau ffilm a theledu yng Nghymru, fe’ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymchwil dan arweiniad Prifysgol De Cymru mewn partneriaeth â Cymru Greadigol.

Mae’r Diwydiannau Cynhyrchu Sgrin yng Nghymru wedi gweld twf aruthrol gydol y deng mlynedd diwethaf ac mae’n parhau’n sector twf â blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mae Arolwg Sgrin Cymru 2021 yn cynnwys cyfrifiad llawn o’r sector cynhyrchu sgrin ledled Cymru am y tro cyntaf.

Trwy gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn cyfrannu at waith mapio arloesol o’r sector sgrin yng Nghymru, gan sicrhau bod yr holl sefydliadau perthnasol a’r gweithlu yn cael y cyfle i gael eu cynnwys.

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 15 munud i’w gwblhau. Bydd yr arolwg yn cau am 5pm, 2 Gorffennaf 2021.

Am ragor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg, defnyddiwch y ddolen ganlynol:
https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/cyfrifiad-diwydiant-cynhyrchu-sg…


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.