BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Astudiaethau dichonoldeb cydweithredu byd-eang

Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn buddsoddi hyd at £1.5 miliwn er mwyn helpu microfusnesau, busnesau bach neu ganolig arloesol i gynnal astudiaethau dichonoldeb rhyngwladol.

Nod y gystadleuaeth hon yw cynyddu cysylltiadau rhyngwladol busnesau bach a chanolig arloesol sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Bydd yn eu helpu i geisio sefydlu neu gryfhau partneriaethau a rhwydweithiau ymchwil ac arloesi rhyngwladol a'u cynorthwyo i dyfu ac uwchraddio.

Rhaid i'ch astudiaeth arfaethedig:

  • ymroi i ddatblygu syniadau arloesol cryf
  • adeiladu rhwydweithiau rhyngwladol newydd
  • archwilio cyfleoedd gan bartneriaethau rhyngwladol a mynediad i farchnadoedd newydd trwy gydweithredu mewn gwaith ymchwil ac arloesi

Wrth wneud cais i'r gystadleuaeth hon, rydych chi'n cychwyn ar broses gystadleuol. Mae'r gystadleuaeth hon yn cau am 11 o’r gloch bore Gwener 3 Medi 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.