BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Atal bwyd da rhag mynd yn wastraff, a lleihau ôl troed carbon Cymru

 

Ar ôl dathlu’n 10fed blwyddyn o ail-ddosbarthu bwyd dros ben yn ddiweddar; dymuna FareShare Cymru siarad â busnesau bwyd a diod sy’n profi problemau gyda bwyd dros ben, ac eisiau mynd i’r afael â’u hôl troed carbon.

Mae FareShare Cymru yn troi problem amgylcheddol yn ddatrysiad cymdeithasol, trwy weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant bwyd a diod i arallgyfeirio’u bwyd dros ben sy’n fwytadwy i bobl fregus Cymru.

Gweithiwn gyda dros 150 o grwpiau cymunedol ac elusennau, yn darparu cyflenwad cyson o fwyd da, maethlon iddynt. 

Bwyd fyddai, fel arall, yn mynd yn wastraff. Mae bwyd dros ben yn digwydd am sawl rheswm, gan gynnwys:

  • gwallau gyda rhagfynegiadau
  • camgymeriadau labelu
  • stoc dymhorol ddarfodedig
  • problemau pecynnu a threialon cynhyrchu i enwi ond ychydig

Mae’r bwyd yma yn dal i fod yn berffaith iawn i’w fwyta, ond fel arall, byddai’n mynd yn wastraff. 

Credai FareShare Cymru ei bod hi’n well bob tro roi’r bwyd hwn ar blatiau, a bwydo pobl fregus.

Yn ogystal â helpu rhai o’r bobl fwyaf bregus yng Nghymru, mae cyfrannu’ch bwyd dros ben chi i FareShare yn ei atal rhag mynd i safleoedd tirlenwi - sef terfyn taith mwyaf cyffredin gwastraff bwyd. Golyga hyn ostyngiad sylweddol i ôl troed carbon eich cwmni, a bod eich bwyd dros ben yn gwneud daioni i’r blaned a’i phobl. Yn ystod 2020-2021 yn unig fe arbedodd FareShare Cymru 735 tunnell o wastraff bwyd a diod, a rwystrodd hyn gyfwerth â 2270 tunnell o allyriadau CO2 rhag mynd i’n hamgylchedd.

Yn ychwanegol i dderbyn cyfraniadau bwyd a diod dros ben, mae FareShare Cymru yn croesawu ceisiadau i’n cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan.

Mae’r gronfa ar gael i holl fusnesau bwyd a diod Cymru a fyddai, fel arall, yn dioddef colledion wrth gyfrannu bwyd dros ben i FareShare Cymru. Gellir defnyddio’r gronfa i ad-dalu costau gan gynnwys cynaeafu, llafur, pecynnu, rhewi a chludo’r bwyd. Yn ogystal, croesawn drafodaeth gyda chi am ffyrdd eraill y gallwn ddefnyddio’r cyllid i annog cyfraniadau o fwyd dros ben. Er enghraifft, os yw’ch bwyd yn dod mewn cyfeintiau mawr, maint addas i’r diwydiant arlwyo, gallwn archwilio’r posibilrwydd o dalu am gostau ail-becynnu’r bwyd yn feintiau llai, haws i’w dosbarthu i wneud y mwyaf ohono. Ein nod yw sicrhau bod cwmnïoedd sydd â bwyd allai fynd yn wastraff yn cydweithio â ni i sicrhau bod y bwyd yma’n cael ei ddefnyddio i fwydo pobl newynog, a’n bod yn gweithio gyda’n gilydd i atal gwastraff.

I drafod cyfrannu bwyd dros ben eich cwmni, y gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan, neu os oes gennych chi gwestiynau eraill, cysylltwch â Simon Stranks (Cydlynydd Cyrchu Bwyd) drwy e-bostio Simon@fareshare.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.