BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Barod Amdani – cynllun am ddim i fusnesau’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch

Mae VisitEngland mewn partneriaeth â sefydliadau croeso cenedlaethol Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi lansio nod defnyddwyr safonol i’r diwydiant ledled y DU, fel arwydd o hyder i’r maes ymwelwyr wrth i’r sector ddechrau ailagor unwaith eto.

Mae arwyddnod ‘Barod Amdani' yn golygu bod busnesau’n gallu dangos eu bod nhw’n dilyn canllawiau iechyd perthnasol y llywodraeth ac iechyd cyhoeddus, wedi cynnal asesiad risg COVID-19 ac wedi sicrhau bod y prosesau gofynnol ar waith ganddynt.

I gael yr arwyddnod, rhaid i fusnesau gwblhau proses hunanasesu ar-lein yn https://goodtogo.visitbritain.com/ sy’n cynnwys rhestr wirio sy’n cadarnhau bod eu prosesau angenrheidiol mewn lle, cyn derbyn tystysgrif a’r nod ‘Barod Amdani’ i’w arddangos ar eu safleoedd ac ar-lein.

Mae’n gynllun rhad ac am ddim, ac ar agor i holl fusnesau’r diwydiant.

Am ragor o fanylion ewch i wefan Visit Britain.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.