Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant, â chanolfan gyrfaoedd Cymru'n Gweithio i gwrdd ag unigolion sydd wedi newid gyrfa’n llwyr yn eu 40au a'u 50au gyda chefnogaeth adolygiad gyrfa Cymru'n Gweithio.
Ar hyn o bryd mae Cymru'n Gweithio yn cynnal ymgyrch er mwyn annog mwy o bobl ledled Cymru i fanteisio ar eu cynnig o adolygiad gyrfa am ddim.
Mae'r adolygiad yn gyfle i archwilio ac ystyried posibiliadau gyrfa newydd gyda chynghorydd gyrfaoedd profiadol sydd wedi'i hyfforddi'n broffesiynol. Mae'n agored i bobl o bob oed sy'n ystyried newid gyrfa am unrhyw reswm. Er enghraifft, am eu bod yn:
- Chwilio am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Bwriadu dychwelyd i'r gwaith ar ôl gofalu am eraill
- Agosáu at oed ymddeol ond ddim eisiau ymddeol yn llawn
- Dymuno datblygu eu gyrfa ymhellach
- Gweithio mewn sector sy'n crebachu ac angen arallgyfeirio
- Wynebu’r posibilrwydd o gael eu diswyddo
- Wynebu sefyllfa lle mae newid wedi bod yn eu hiechyd
- Dymuno gwireddu breuddwyd o ran dechrau mewn swydd ddelfrydol
- Dymuno troi hobi yn yrfa
Rhwng 2019 (pan sefydlwyd Cymru’n Gweithio) a diwedd Tachwedd 2024, mae dros 180,000 o gwsmeriaid wedi derbyn cefnogaeth; mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gyda newid gyrfa.
Am fwy o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol: