BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwletin Cyflogwyr CThEM Awst 2021

Mae rhifyn Awst o’r Bwletin Cyflogwyr yn dod â’r holl newyddion diweddaraf i chi o CThEM a chyfarwyddyd i gefnogi cyflogwyr ac asiantau cyflogres.

Mae gwybodaeth bwysig am:

  • pontio’r DU a’r newidiadau o archwiliadau hawl i weithio o 1 Gorffennaf 2021
  • gwybodaeth am COVID-19 gyda diweddariadau ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws
  • y Cynllun Talu wrth Ennill
  • diweddariadau treth a newidiadau i gyfarwyddyd, gan gynnwys y diweddaraf ar y cymorth rheolau gweithio oddi ar y gyflogres a llythyr rhybudd cosb P11D(b) 
  • gwybodaeth gyffredinol a chymorth.

Dim ond ar-lein mae’r bwletin ar gael. Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhybuddio e-bost cyflogwyr CThEM i dderbyn negeseuon e-bost gan CThEM a fydd yn dweud wrthych pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.