Mae rhifyn mis Chwefror o’r Bwletin Cyflogwyr yn cynnwys holl ddiweddariadau a chanllawiau diweddaraf CThEM i gefnogi cyflogwyr, gweithwyr cyflogres proffesiynol ac asiantau.
Mae’r rhifyn yn cynnwys diweddariadau pwysig ar:
- newidiadau i brosesau ein Llinell Gymorth i Gyflogwyr
- paratoi’ch Cyflwyniad Taliad Llawn neu Grynodeb Taliad Cyflogwr diwethaf
- adrodd ar dreuliau a buddion a grosio buddion a threuliau drwy’r gyflogres
- cofrestru ar gyfer Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr
- paratoi ar gyfer Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW – ydych chi’n barod?
Mae’r bwletin cyflogwyr i’w weld ar-lein yn unig.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK