BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bydd awyru da yn helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo COVID yn y gweithle

Bydd canllawiau diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn eich helpu i sylwi ar awyru gwael yn y gweithle a chymryd camau ymarferol i wella hynny. Gall hyn helpu i leihau'r risg o ledaenu COVID-19 yn eich gweithle.

Mae'r canllawiau yn cynnwys fideo sy'n rhoi cyngor allweddol, gyda gwybodaeth am y canlynol:

  • adnabod ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n wael a defnyddio monitorau CO2
  • gwella awyru naturiol
  • sut i wella awyru mecanyddol
  • unedau glanhau aer a hidlo aer
  • awyru mewn cerbydau gwaith

Hefyd, ceir rhai enghreifftiau o sut mae busnesau wedi gwella awyru er mwyn lleihau'r perygl o drosglwyddo COVID-19 yn y gweithle.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.