BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bydd bositif

Llywodraeth Cymru'n lansio ymgyrch ‘Bydd bositif’ i godi ymwybyddiaeth o'r warant i bobl ifanc.

Mae’r ymgyrch ‘Bydd Bositif’, yn ceisio cyfleu Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc ac annog pobl ifanc Cymru i ymgysylltu’n gadarnhaol â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ymgyrch wedi’i datblygu mewn ymateb i effaith COVID-19 ar y cyfleoedd cyflogaeth ac addysgol sy’n wynebu pobl ifanc. Roedd pobl dan 25 oed mewn tri o bob pum swydd a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19. 

Mae wedi cael ei ddylunio i fynd i’r afael â’r agweddau negyddol am ragolygon swyddi a’r heriau iechyd meddwl mae pobl ifanc yn dod i gysylltiad â nhw – ar gyfryngau cymdeithasol yn bennaf. Mae ‘Bydd Bositif’ yn hyrwyddo’r gefnogaeth a’r cyfleoedd cadarnhaol sydd ar gael ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu â’r hyn y gellir cael mynediad ato drwy’r gwasanaeth Cymru’n Gweithio.

Nod y Warant i Bobl Ifanc yw rhoi'r cyfle i bobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru gael mynediad at addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth fydd yn eu harwain at gyflogaeth neu hunangyflogaeth. Bydd y Warant yn cefnogi pobl ifanc, yn enwedig y rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i lywio eu ffordd i fyd gwaith a thrwyddo.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i fusnesau ystyried sut gallant chwarae eu rhan i gefnogi’r Warant i Bobl Ifanc drwy recriwtio drwy’r rhaglen Prentisiaeth, cynnig profiad gwaith i bobl ifanc drwy raglenni addysg a hyfforddiant amrywiol a rhoi cyngor ar sut i recriwtio person ifanc anabl.

I gael gwybod mwy am y Warant i Bobl Ifanc, ffoniwch Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu ewch i Gwarant i Bobl Ifanc | Working Wales (llyw.cymru)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.