BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bydd cyllid newydd gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig yn rhoi hwb i brosiectau technoleg gofod

Nod yr alwad am Grantiau am Syniadau Archwiliadol, rhan o’r Rhaglen Technoleg Gofod Genedlaethol, yw ariannu prosiectau byr tri mis sy’n cefnogi gweithgareddau technoleg gofod arloesol, gan annog cydweithio rhwng diwydiant ac academyddion, ac annog gweithredwyr newydd yn y sector gofod.

Gallai prosiectau gynnwys:

  • Trosglwyddo gwybodaeth
  • Datblygu sgiliau
  • Astudiaethau o’r farchnad
  • Tystiolaeth o gysyniadau ar gyfer technoleg gofod

Mae Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig yn annog y rhai sy’n newydd i dechnoleg gofod gymryd rhan yn yr alwad. Mae croeso i fusnesau sefydledig, cwmnïau dielw ac academyddion wneud cais hefyd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm ar 12 Awst 2021.

Am ragor o fanylion, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.