BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bydd yn rhaid ystyried newid hinsawdd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau yng Nghymru yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn rhaid i ddatblygiadau yng Nghymru yn y dyfodol ystyried y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol a achosir gan newid hinsawdd.

Am y tro cyntaf yn y DU, bydd yn rhaid i ddatblygwyr weithio gyda mapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol sydd ar gael heddiw sydd nid yn unig yn dangos lefelau risg cyfredol, ond hefyd y risg a achosir gan newid hinsawdd.

Bydd y cyngor polisi cynllunio newydd a elwir yn Nodyn Cyngor Technegol 15, neu TAN 15 yn fyr, yn llywio cynlluniau datblygu lleol yn y dyfodol a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. 

Caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i gyfeirio datblygiadau oddi wrth ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.

Mae TAN 15 yn glir na ddylid lleoli datblygiadau newydd ar gyfer cartrefi, y gwasanaethau brys, ysgolion ac ysbytai mewn ardaloedd lle ceir risg uchel o lifogydd heb amddiffynfeydd llifogydd cryf. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.