Mae Small Business Britain yn cyflwyno rhaglen fentora newydd ar gyfer entrepreneuriaid anabl, sy'n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Lloyds Bank. Nod y fenter newydd hon, a gynhelir ar blatfform hawdd ei ddefnyddio o'r enw Digital Boost, yw cefnogi entrepreneuriaid anabl trwy eu cysylltu â mentoriaid sydd â sgiliau penodol, ac sy'n rhannu profiad byw tebyg.
Mae'r fenter hon yn ganlyniad uniongyrchol i ganfyddiadau The Lilac Review, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogaeth rhwng cymheiriaid wrth lwyddo mewn busnes, felly maen nhw'n gwahodd mentoriaid sydd â phrofiad byw o anabledd i arwain y ffordd.
Fel mentor, byddwch yn darparu cyngor amhrisiadwy, yn rhannu gwybodaeth ymarferol, ac yn cynnig yr anogaeth sydd ei hangen i helpu eraill ar eu taith fusnes.
Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth fel mentor, cofrestrwch nawr gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Digital Boost Volunteer Portal | Sign Up - Disabled Entrepreneurs Mentoring Programme
Mae’r Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru, a ddatblygwyd gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyngor ymarferol i sefydliadau a chynghorwyr cymorth busnes ar y ffordd orau o ymgysylltu â a chefnogi pobl anabl sy'n dechrau, cynnal neu dyfu eu busnes yng Nghymru.