BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bywydau Gwell Yn Nes At Adref – cystadleuaeth ariannu

Beth yw Mentrau Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)?

Mae Mentrau Ymchwil Busnesau Bach yn galluogi'r sector cyhoeddus i gysylltu â syniadau arloesol gan fusnesau, gan ddarparu atebion newydd i heriau penodol.

Maent yn helpu cyrff cyhoeddus i ymgysylltu â sefydliadau o wahanol sectorau, busnesau bach a busnesau sydd yn datblygu. Gall atebion technegol newydd gael ei ddangos drwy ddatblygu technoleg cyflymedig, tra bod risg yn cael ei lleihau drwy ddatblygiad fesul cam a ffynhonnell dryloyw, gystadleuol a dibynadwy o gyllid cyfnod cynnar.

Mae COVID-19 wedi cael effaith mawr ar gymunedau, cymdeithas ac unigolion, boed yr effeithiau ar iechyd corfforol neu feddyliol, effaith economaidd, colli swyddi ac incwm, safonau byw a'r pwysau cynyddol ar wasanaethau meddygol a chymdeithasol.

Er mwyn helpu adferiad, bydd Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI yn ariannu sefydliadau i ddatblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd a fydd yn cefnogi ein hiechyd a'n lles hirdymor gan ganolbwyntio ar fywydau gwell yn nes at adref.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau nodi a chefnogi prosiectau a fydd yn cefnogi bywydau gwell yn nes at adref ac fydd yn cyd-fynd â'r themâu allweddol canlynol:

  • Adeiladu Gwyrdd Yn ôl
  • Cynaliadwyedd a diogelwch cadwyni cyflenwi
  • Cefnogi lles meddyliol a chorfforol i bob cenhedlaeth

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 27 Tachwedd 2020.

Dilynwch y ddolen isod a chofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y Digwyddiad Briffio rhithwir a fydd yn cael ei gynnal ar 12 Tachwedd 2020 am 10am-11am:

https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/sbri-gwell-bywydau-agosach-at-cartref/

I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth hon, ewch i sdi.click/betterlives

Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y gystadleuaeth hon e-bost: SBRI.COE@wales.nhs.uk

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.