Bydd mesurau dros dro a gyflwynwyd i gefnogi busnesau rhag ansolfedd yn ystod y pandemig yn cael eu dileu’n raddol o 1 Hydref 2021.
Mae cwmnïau sy’n cael anawsterau ariannol yn sgil y pandemig wedi’u diogelu rhag camau gan gredydwyr ers mis Mehefin y llynedd, drwy Ddeddf Ansolfedd Corfforaethol a Llywodraethu 2020.
Y nod yma oedd sicrhau nad oedd busnesau hyfyw a effeithiwyd gan y cyfyngiadau ar fasnachu yn y cyfnodau clo yn cael eu gorfodi i ansolfedd yn ddiangen.
Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno i helpu cwmnïau llai i godi ar eu traed i roi mwy o amser iddynt fasnachu eu ffordd yn ôl i iechyd ariannol cyn y gall credydwyr gymryd camau i’w dirwyn i ben.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn:
- Diogelu busnesau rhag credydwyr yn mynnu ad-daliad ar ddyledion cymharol fach drwy godi’r trothwy dyledion cyfredol ar gyfer deiseb dirwyn i ben i £10,000 neu fwy dros dro.
- Ei gwneud hi’n ofynnol i gredydwyr ofyn am gynigion ar gyfer talu gan fusnes dyledwyr, gan roi 21 diwrnod iddynt ymateb cyn y gallant fwrw ymlaen â chamau dirwyn i ben.
- Bydd y mesurau hyn mewn grym nes 31 Mawrth 2022.
Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.