BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Camau at Gynaliadwyedd – Rhaglen y Gronfa Dreftadaeth

Mae sefydliadau treftadaeth ledled y DU dan bwysau cynyddol a chyfyngiadau ariannol, gyda llawer yn wynebu heriau eithafol er mwyn sicrhau dyfodol sefydlog.

Gydag effaith ychwanegol Covid-19, mae angen diwylliant o fentergarwch i adeiladu sector treftadaeth cynaliadwy a gwydn yn awr yn fwy nag erioed.

Bydd Camau at Gynaliadwyedd, rhaglen newydd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a ddarperir gan yr Academi Mentrau Cymdeithasol, yn darparu llwybr cymorth i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Bydd yn helpu eich sefydliad i fod yn uchelgeisiol a blaengar ac i gyflawni prosiectau newydd cyffrous.

Pwy ddylai wneud cais?
Sefydliadau treftadaeth bach a chanolig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a'r rhai:

  • Sy’n meddu ar syniad a all gynhyrchu incwm sydd heb ei lawn ddatblygu eto.
  • Sydd angen yr adnoddau a'r gefnogaeth y mae'r rhaglen hon yn eu cynnig er mwyn gwireddu’r syniad hwn.
  • Sy’n barod i ryddhau hyd at ddau berson o'ch sefydliad, yn ddelfrydol ymddiriedolwr ac aelod staff neu wirfoddolwr i fynychu'r rhaglen lawn.
  • Sy’n gallu ymrwymo i amserlen lawn y rhaglen. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 23 Gorffennaf 2021.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Academi Mentrau Cymdeithasol.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.