BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Caniateir teithio tymor byr heb fisa mewn 20 aelod-wladwriaeth

Mae ugain o wledydd yr UE yn caniatáu i gerddorion a pherfformwyr o'r DU deithio yno heb fisa a thrwydded waith.

Y gwledydd hyn yw: Awstria, Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Romania, Slofacia, Slofenia a Sweden.

Mae'r cyfnod a'r gofynion yn amrywio o'r naill Aelod-wladwriaeth i'r llall; argymhellir y dylai gwladolion y DU wirio pa ofynion y mae angen iddynt eu bodloni gydag Aelod-wladwriaeth yr UE cyn teithio. 

Gweler y crynodebau cyffredinol a gyhoeddwyd ar gyfer teithwyr busnes ar gyfer pob Aelod-wladwriaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.