BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd yr ICO ar wyliadwriaeth fideo

Mae canllawiau newydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ar wyliadwriaeth yn darparu adnodd wedi'i ddiweddaru i sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus, sy'n mynd i'r afael â chymwysiadau technolegau gwyliadwriaeth fideo newydd, a disgrifiad mwy cynhwysfawr o sut mae GDPR y DU a DPA 2018 yn berthnasol.

Mae'r technolegau'n cynnwys:

  • Teledu cylch cyfyng traddodiadol
  • ANPR
  • Fideo a wisgir ar y corff (BWV)
  • Technoleg adnabod wynebau (FRT)
  • Dronau 
  • Technolegau mwy masnachol sydd ar gael fel clychau drws clyfar a chamerâu dashfwrdd

Nid yw'r canllawiau'n cwmpasu defnyddio teledu cylch cyfyng mewn cartrefi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Video Surveillance | ICO
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.