BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar brofion coronafeirws yn y gweithle

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar sut dylai cyflogwyr drafod data os ydyn nhw’n penderfynu profi gweithwyr am Covid-19.

Mae’r canllawiau’n cynnwys:

  • Ar ba sail gyfreithiol y galla i brofi gweithwyr?
  • Sut galla i ddangos bod ein dull o brofi yn cydymffurfio â’r gyfraith diogelu data?
  • Oes hawl gen i gadw rhestrau o weithwyr sydd â symptomau neu sydd wedi’u profi’n bositif?

Er yn debyg, mae amrywiadau yn null Llywodraeth y DU a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig. Dylai cyflogwyr sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion lleol perthnasol ar gyfer eu safleoedd, gan gynnwys unrhyw wahaniaethau lleol y gellid eu cyflwyno wrth i’r DU lacio’r cyfyngiadau symud.

Ewch i dudalennau profion Gweithle Swyddog y Comisiynydd Gwybodaeth – canllawiau ar gyfer cyflogwyr am ragor o wybodaeth.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.