BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CCAV – Datblygu’n ddiogel i gerbydau cwbl awtomatig

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1.5 miliwn am hyd at dri phrosiect cerbydau awtomatig. Daw’r cynnig hwn gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a’r Centre for Connected and Autonomous Vehicles (CCAV).

Bydd yr Adran Drafnidiaeth a CCAV yn gweithio gydag Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, i fuddsoddi hyd at £1.5 miliwn am hyd at dri phrosiect cerbydau awtomatig.

Nod y gystadleuaeth hon yw dal ati i ddatblygu technolegau a phrosesau sicrwydd er mwyn galluogi’r defnydd diogel o gerbydau cwbl awtomatig.

Cynigir cyllid i ddatblygu technolegau sy’n gymwys i naill ai gwasanaethau teithwyr, gwasanaethau cludiant neu’r ddau, gyda’r bwriad o’u defnyddio yn y dyfodol ar ffyrdd cyhoeddus.

Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Mercher 28 Gorffennaf am 11am.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.