BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ceisiadau terfynol ar gyfer y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol

Bydd y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol yn dod i ben ar 17 Mawrth 2022. Bydd gennych hyd at 24 Mawrth 2022 i gyflwyno unrhyw geisiadau am gyfnodau o absenoldeb hyd at 17 Mawrth 2022, neu i ddiwygio ceisiadau rydych chi eisoes wedi’u cyflwyno.

Ni fyddwch yn gallu hawlio Tâl Salwch Statudol yn ôl ar gyfer absenoldebau cysylltiedig â’r coronafeirws neu hunanynysu gan eich gweithwyr sy’n digwydd ar ôl 17 Mawrth 2022.

O 25 Mawrth 2022, bydd rheolau Tâl Salwch Statudol arferol yn gymwys, sy’n golygu y gall cyflogwyr fynd yn ôl i dalu Tâl Salwch Statudol o’r pedwerydd diwrnod y mae eu gweithwyr i ffwrdd o’r gwaith beth bynnag yw’r rheswm dros eu habsenoldeb salwch.

Am ragor o wybodaeth am reolau Tâl Salwch Statudol, ewch i’r canllaw i gyflogwyr Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr - GOV.UK (www.gov.uk)

Am ragor o wybodaeth am gymhwystra a sut i wneud eich ceisiadau terfynol, ewch i Check if you can claim back Statutory Sick Pay paid to employees due to coronavirus (COVID-19) - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.